llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Ffair Swyddi a gynhaliwyd yn Llangollen yn llwyddiant mawr

Cynhaliwyd Ffair Swyddi’r gwanwyn yn Neuadd y Dref Llangollen mis Ebrill a daeth mwy nag 80 o bobl trwy’r drysau.

Nod cynnal y ffair oedd caniatáu i bobl gwrdd â chyflogwyr wyneb i wyneb a thrafod cyfleoedd gyrfa a chyflogaeth.

Hon oedd yr ail ffair swyddi i gael ei chynnal eleni, ac fe’i trefnwyd gan Dîm Sir Ddinbych yn Gweithio y Cyngor, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llangollen.

Roedd gan amrywiaeth eang o gyflogwyr stondinau yn y ffair, gan gynnwys sefydliadau a gaiff eu hadnabod yn lleol a chenedlaethol, fel A N Richards, Preworn Ltd, Ifor Williams Trailers Ltd, Y Gwasanaeth Tân, Y Fyddin a llawer mwy, gan gynnig cyfleoedd i unigolion â phob lefel o brofiad.

Roedd y Ffair Swyddi hon yn rhan o Fis Mawrth Menter y Cyngor, sef ymgyrch sy’n darparu gweithdai, digwyddiadau hyfforddiant a sesiynau cyngor rhad ac am ddim i fusnesau ar draws Sir Ddinbych trwy gydol mis Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Rwy’n falch o weld bod cynifer o bobl wedi mynychu’r ffair swyddi ddiweddaraf hon. Mae’r ffeiriau swyddi hyn yn hynod o bwysig oherwydd eu bod yn cysylltu pobl Sir Ddinbych gyda busnesau a chyflogwyr a gaiff eu hadnabod yn lleol a chenedlaethol.

Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych, a oedd o fudd mawr i bobl Llangollen, yn ogystal â’r sir gyfan. Hoffwn ddiolch i dîm Sir Ddinbych yn Gweithio am eu gwaith caled a’u hymrwymiad a oedd yn help mawr i sicrhau bod y digwyddiad hwn yn bosibl, a’i fod yn llwyddiant mawr.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...