llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Salon harddwch yn Rhuthun yn falch o’r gefnogaeth gan y gymuned

Mae harddwr o Sir Ddinbych yn dweud bod prynu’r peth lleiaf yn rhoi gwên fawr ar wyneb masnachwyr lleol.

Mae busnes harddwch a thrin gwallt Beauty on the Square wedi bod yn agored yn Rhuthun ers dros bedair blynedd ond fel y rhan fwyaf, roedd y pandemig byd-eang wedi amharu ar eu ffordd arferol o fasnachu, felly roedd yn rhaid i berchennog busnes a gweithiwr proffesiynol gwallt a harddwch Kara Tyrrell feddwl ar ei thraed ac addasu. 

Dywedodd Kara a fynychodd Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun ac yna mynd ymlaen i hyfforddi fel harddwr: “Yn ystod y cyfnod clo, roeddwn yn sylwi fod pobl yn awyddus i ofalu am eu hunain gartref, yn arbennig o ran gofalu am eu hiechyd, gan gynnwys gofalu am y croen. 

 ‘Doeddwn i ddim yn gallu cynnig gwasanaethau corfforol felly defnyddiais fy ngwybodaeth broffesiynol i greu tiwtorial gofalu am y croen ac yna uwchlwytho’r fideos ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

“Ar ôl ychwanegu siop ar-lein, roedd gwylwyr cyfryngau cymdeithasol wedi troi’n gwsmeriaid ac yn manteisio ar ein gwasanaeth clicio a chasglu a chludo – roedd y gefnogaeth yn anhygoel.”

Roedd Beauty on the Square wedi dechrau cynnig eitemau rhodd fel canhwyllau, bagiau colur yn ogystal â hamperi rhodd mwytho a ‘phecynnau cartref’.

Mae Kara yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesau Lleol gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda’r nod i annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Meddai: “Mae yna dybiaeth nad yw busnesau bach mor gystadleuol o ran prisiau â siopau ar-lein, nid yw hyn bob amser yn wir.  Y gwahaniaeth yw, drwy gefnogi’n lleol rydych yn diogelu busnesau lleol ac yn y pen draw eich stryd fawr.

 “Mae yna gymaint i’w gynnig ar eich stryd fawr leol, byddwn yn annog pobl i archwilio beth sydd ar eu carreg drws.”

Mae Kara sy’n byw yn Rhuthun wedi buddsoddi mewn hyfforddiant arbenigol i roi rhywbeth yn ôl i’w chymuned.

Meddai: “Rydym yn cymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian lleol ac yn mynychu cyrsiau hyfforddi i wella’r salon er budd ein cwsmeriaid, fel hyfforddiant dementia i sicrhau bod y salon yn deall dementia.

“Mae yna gymuned gref, gan gynnwys gyda’n busnesau cyfagos.  Gofalwch am eich busnes lleol a gallwn ni ofalu amdanoch chi.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, dilynwch gyfrifon Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook a Twitter, yn ogystal â chyfrif cyfryngau cymdeithasol #CaruBusnesauLleol

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...