llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Mae’r Tŷ Gwyrdd yn gwneud siopa ecogyfeillgar yn haws i bawb

Mae canolbwynt cymunedol Sir Ddinbych yn darparu cefnogaeth gynaliadwy i siopwyr ecogyfeillgar.

Mae’r Tŷ Gwyrdd, a sefydlwyd ym mis Mehefin 2021 ac a agorodd ar Lôn Cefn, Dinbych yn ystod mis Mehefin 2021, yn ysbrydoli lefel newydd o gyfrifoldeb ecolegol ymhlith y gymuned leol.

Mae’r Canolbwynt Cymunedol yn cynnwys siop ail-lenwi ecogyfeillgar ar y llawr cyntaf, gyda gofod stiwdio ychwanegol ar y llawr cyntaf a’r ail lawr. 

Meddai Marguerite Pearce, Cyfarwyddwr Y Tŷ Gwyrdd: “Rydym yn gwerthu cynnyrch ail-lenwi ar gyfer y tŷ, cynnyrch garddio a bwyd, rydym hefyd yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu cynhyrchu’n lleol lle bo modd.  Rydym yn cefnogi ac yn darparu prosiectau gwyrdd sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles, gan gydweithio gydag artistiaid lleol, mentrau cymunedol a sefydliadau cyhoeddus a phreifat.

“Rydym yn gwneud siopa ecogyfeillgar yn haws i bawb.  Rydym yn cynnig ystod eang o eitemau sylfaenol a fforddiadwy ar gyfer y tŷ sy’n helpu i leihau’r defnydd o becynnau a gwastraff bwyd a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. Rydym yn gwrando ar gwsmeriaid ac yn ymateb i’w gofynion er mwyn darparu’r cynnyrch y mae arnynt eu heisiau, gan ddefnyddio cyflenwyr a chynhyrchwyr lleol ac ecogyfeillgar sy’n cynnig system dolen gaeedig (ailddefnyddio yn hytrach nag ailgylchu).”

Mae’r sefydliad yn Ninbych yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Mae’r Tŷ Gwyrdd yn falch iawn o’u harwyddair, ‘ysbrydoli newid i greu dyfodol cynaliadwy’. 

Ychwanegodd Marguerite: “Mae gennym ethos o ‘addasu nid taflu’ ac rydym yn gwerthfawrogi popeth.  Rydym yn ceisio bod yn greadigol, dychmygol a dyfeisgar ym mhopeth a wnawn, y rheol allweddol yw lleihau gwastraff a phrynu diangen (prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch), ailddefnyddio (ail-lenwi cynwysyddion, prynu pethau ail law, rhoi eitemau nad oes arnoch chi eu heisiau i elusen, atgyweirio eitemau sydd wedi torri), ac ailgylchu pan fetho popeth arall. 

Mae’r canolbwynt wedi cofrestru ar gyfer rhai cynlluniau TerraCycle, ac yn cyfeirio cwsmeriaid at leoliadau eraill sy’n dilyn cynlluniau TerraCycle. 

Eglurodd Marguerite: “Mae ein cyflenwyr ail-lenwi hylif yn cynnig system dolen gaeedig sy’n golygu eu bod y cymryd y cynhwysydd yn ôl, yn ei olchi a’i ail-lenwi.    Rydym yn ceisio cynnig cynnyrch lleol ac o’r DU er mwyn lleihau ein hôl troed carbon. Mae gennym gyflenwr ynni adnewyddadwy.

Mae mewnbwn y gymuned leol yn hanfodol i sicrhau bod y fenter yn gallu parhau nawr ac i’r dyfodol.”

Meddai Marguerite: “Rydym yn ymgysylltu â’r gymuned i ddeall a chefnogi’r mentrau a’r gweithgareddau sy’n digwydd yn lleol, i wrando ar syniadau a phryderon, a nodi beth hoffai pobl ei weld yn digwydd yn y dyfodol. 

“Fel cymdeithas mantais gymunedol, y gymuned sy’n ein cynnal ac yn berchen arnom.  Rydym yn gwahodd y gymuned leol i gymryd rhan yn Y Tŷ Gwyrdd. Er mwyn sicrhau bod y canolbwynt a’r gweithgareddau’n gynaliadwy, rydym yn credu y dylai’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma helpu i’w harwain a’u siapio. 

Cynhaliodd Y Tŷ Gwyrdd eu cynnig cyfranddaliadau cyntaf ym mis Mehefin a chroesawyd 50 o fudd-ddeiliaid. Mae’r canolbwynt hefyd yn gweithio gyda chwmnïau buddiannau cymunedol reSource a Drosi Bikes ar brosiect cydweithredol i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd uchel. 

Mae’r cynlluniau ar gyfer y canolbwynt i’r dyfodol yn cynnwys datblygu gweithdy atgyweirio yn Ninbych, darparu calendr o ddigwyddiadau gan weithio mewn partneriaeth ag unigolion a sefydliadau lleol, a pharhau i chwilio am safle sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau, gyda lleoedd newid a chyfleusterau newid babanod neillryw.

Beth oedd eu neges i’r rheiny sy’n ystyried siopa’n lleol yn eu cymunedau?

Ychwanegodd Marguerite: “Cefnogwch eich siopau lleol, helpwch y stryd fawr i ffynnu, a chadwch ein hysbryd creadigol, cyfeillgar a chymunedol yn fyw.”

Gall siopwyr helpu drwy rannu profiadau a chynnyrch da ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn ac yn argymell fod pobl eraill hefyd yn #CaruBusnesauLleol.

Gallwch gymryd rhan trwy fynd i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...