llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Cyngor yn agor canolbwynt cymorth busnes fel rhan o ymgyrch #CaruBusnesauLleol

Mae siop dros dro wedi agor i dynnu sylw pobl at fusnesau annibynnol y Nadolig hwn.

Mae LoveLiveLocal@Rhyl bellach ar agor ac yn cynnig cymorth ar lawr gwlad i fusnesau lleol, wedi’i drefnu gan y Cyngor ac Antur Cymru y partner darparu.

Bydd y siop dros dro yng Nghanolfan Siopa’r Rhosyn Gwyn yn y Rhyl yn llwyfan i fusnesau newydd a busnesau bach sydd eisiau treialu menter newydd heb y risg arferol.

Bydd cynhyrchwyr sy'n cymryd rhan yn derbyn ystod amrywiol o gefnogaeth a ariennir yn llawn gan ein tîm cynghori Busnes Cymru. Bydd y gefnogaeth a gynigir yn cynnwys Cynllunio Busnes a Marchnata, ystwythder digidol, adnoddau dynol a chymorth tendro, i gefnogi busnesau bach o'r cychwyn i dwf parhaus.

Yn ogystal â chynnig cymorth i fusnesau bydd y canolbwynt yn darparu cynnig manwerthu newydd ar gyfer Sir Ddinbych ac yn annog ymwelwyr i ddod i’r dref.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Rydym yn falch iawn o agor drysau’r prosiect newydd cyffrous hwn sy’n canolbwyntio ar gefnogi busnesau bach i fasnachu yn Sir Ddinbych.

“Bydd y siop dros dro o fudd i ganol tref y Rhyl drwy ddarparu canolbwynt cymorth i fusnesau, ychwanegu at y cynnig manwerthu yng nghanol y dref a rhoi defnydd dros dro i uned fanwerthu wag.

“Bydd ar fusnesau lleol angen ein holl gefnogaeth y gaeaf hwn – gyda’n gilydd gallwn gefnogi ein trefi drwy siopa’n lleol a defnyddio’r hashnod #CaruBusnesauLleol i annog eraill i wneud yr un fath.”

Bydd chwe busnes yn meddiannu'r gofod gan gynnwys Royle Bakes, Del Creations, Blooming Brownies, Ivy Bank Honey Bees, Crafty Creations a Greener Beings ac mae lle i fusnesau eraill hefyd.

Meddai Debbie Rowley, perchennog Royle Bakes: “Fel perchennog busnes newydd rydw i'n edrych ymlaen at y cyfle hwn efo Antur Cymru.

“Mae’n gyfle i mi arddangos y cacennau y gallwch chi eu harchebu a darparu lle i gwsmeriaid posibl flasu fy nghynnyrch a ddylai helpu i dyfu fy musnes."

Mae’r dull newydd hwn yn cael ei roi ar brawf gydag arian gan Gyngor Sir Ddinbych a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae’n rhan o ymgyrch #CaruBusnesauLleol y Cyngor sy’n codi ymwybyddiaeth pobl o bwysigrwydd cefnogi busnesau lleol.

Bydd y partner darparu, Antur Cymru, yn rheoli’r siop yn Uned 16B Canolfan y Rhosyn Gwyn, y Rhyl o 18 Tachwedd tan Noswyl Nadolig 2021.

Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch ac i fanteisio ar yr adnoddau marchnata rhad ac am ddim, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...