llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Siop flodau yn Rhuddlan yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar

Mae perchennog siop flodau yn dweud bod siopa’n lleol yn cynnig profiad cyfeillgar na ellir ei gynnig wrth bori ar-lein.

Bu i Jacqui Bell sefydlu The Little Flowermonger yn Rhuddlan yn Hydref 2019, ac mae hi’n canolbwyntio ar ddarparu profiad cwsmer gwych yn ogystal â bod yn gynaliadwy, yn gwerthu blodau Prydeinig yn bennaf a defnyddio deunydd pecynnu bioddiraddiadwy.

Mae The Little Flowermonger hefyd yn gwerthu torchau drws Nadolig pwrpasol a wnaed â llaw ac addurniadau blodau i’r cartref a all roi teimlad Nadoligaidd cyfoes a naturiol. 

Dywedodd Jacqui, cyn ddisgybl yn Ysgol Howell’s, Dinbych: “Rwy’n gwerthu blodau ffres a sych ac rwy’n ceisio prynu blodau a deiliach a dyfwyd ym Mhrydain ble’n bosib a defnyddio’r siop fel llwyfan i ddangos y stoc wych a dyfir yn y wlad. Mae ein stoc yn cael ei dorri a’i anfon i mi yn uniongyrchol gan y tyfwyr o fewn 24 awr.

“Rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth eang o fasau gwydr a ailgylchwyd, canhwyllau a wnaed â llaw ac anrhegion eraill gan gyflenwyr sy'n cyd-fynd ag ethos cynaliadwy Little Flowermonger.”

Symudodd Jacqui i Lundain i hyfforddi i fod yn werthwr blodau ac yna gweithiodd gyda gwerthwyr blodau i enwogion yn dylunio digwyddiadau ar raddfa fawr cyn agor ei siop ei hun yn darparu blodau i nifer o gynyrchiadau ffilm gan gynnwys Spiderman a Batman yn nechrau’r 2000au, Yn ogystal â llu o ddramâu BBC a digwyddiadau ar gyfer lansio llyfrau, cyngherddau cefn llwyfan, cylchgrawn Hello a Radio Capital.

Defnyddiwyd ei thorchau drws Nadolig gan nifer o westai yn Llundain fel rhan o’u haddurniadau Nadoligaidd.

Ar ôl symud i Ogledd Cymru, agorodd Jacqui The Little Flowermonger a bellach yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Meddai: “Rwy’n meddwl fod nifer o fusnesau gwych ar garreg ein drws. Credaf y dylem ddefnyddio ein siopau lleol, mae’n llawer mwy personol o gymharu â hwylustod clicio ar ddolen.

“Mae Rhuddlan yn bentref gwych ac mae nifer o fasnachwyr annibynnol yma sy’n darparu cynnyrch ardderchog a gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Fel cwsmer, teimlaf ein bod eisiau teimlo'n dda am wario arian. Dylai siopa fod yn brofiad pleserus na all unrhyw gyfrifiadur ei ailgynhyrchu, nid yn aml mae cyfrifiadur yn gofyn sut ddiwrnod rydych yn ei gael neu’n cynnig paned o de a sgwrs i chi.”

Mae Jacqui yn mynychu marchnadoedd blodau ei hun i brynu stoc, gan ddileu’r angen ar gyfer faniau a lorïau danfon.

Meddai: “Mae fy musnes cyfan yn ymwneud â cheisio bod mor gynaliadwy â phosib, fel arall nid oedd pwrpas agor fel siop flodau arall yn gwerthu'r un fath, pan gall y cwsmer fynd ar-lein ac archebu a chael tusw ‘paentio yn ôl rhif' gyda llawer o ategolion plastig.

“Mae fy neunydd pecynnu yn syml iawn, mae’n bioddiraddiadwy i gyd, mae hyd yn oed fy mwydydd blodau mewn bagiau compostadwy. Rwy’n ailddefnyddio cymaint â phosib ac yn ymchwilio yn ddyddiol i syniadau newydd i wella yn gyson."

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, dilynwch gyfrifon Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook a Twitter, yn ogystal â chyfrif cyfryngau cymdeithasol #CaruBusnesauLleol / #LoveLiveLocal.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...