llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

SUP Paddle Adventures - Loggerheads

Rhowch brofiad yn anrheg y Nadolig hwn

Gallai ‘tocyn rhodd profiad’ fod yn anrheg berffaith i rywun arbennig sydd gan bopeth y Nadolig hwn.

Mae gan Sir Ddinbych ystod o chwaraeon antur a gweithgareddau awyr agored i’w cynnig a’r gaeaf hwn gallwch roi anrheg wahanol i rywun neu gael yr holl offer maent ei angen ar gyfer y flwyddyn newydd. 

Mae Caroline Dawson, wnaeth sefydlu SUP Paddle Adventures,  ysgol SUP Academi Sgiliau Dŵr achrededig a leolir yn Loggerheads, yn cynnig tiwtoriaeth sefyll i fyny ar badlfwrdd, teithiau arfordirol a sesiynau diogelwch.

Caroline Dawson (ar y dde) o SUP Lass Paddle Adventures gyda Jo Moseley

Mae hi hefyd yn padlo’n gystadleuol ac yn ddiweddar daeth yn ail yn Her Great Glen Cyfres SUP Prydain Fawr yn yr Alban.

Dywedodd Caroline: “Fy angerdd yw antur a hoffwn gynnig mwy na gwers sylfaenol yn unig i gwsmeriaid, rwy’n cynnig siocled poeth neu fwg o gawl wrth y dŵr yn aml.  Mae wedi bod yn wych gweld pobl yn dod i sesiynau, yn arbennig yn dilyn y pandemig, mae gweld padlwyr yn chwerthin a chael hwyl unwaith eto yn wych.”

Mae padlfyrddio yn cynnwys cyfranogwyr yn defnyddio padl wrth sefyll neu’n penlinio ar badlfwrdd.

SUP Lass Paddle Adventures

Dywedodd Caroline: “Mae padlfyrddio wedi tyfu’n sylweddol dros y 12 mis diwethaf, mae’n boblogaidd iawn.  Mae Sir Ddinbych yn ardal dda iawn ar gyfer chwaraeon antur, maent yn boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr ac mae yna gymaint o fusnesau yn cynnig ystod eang o chwaraeon antur.

“Mae’n bwysig iawn cefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y Nadolig hwn, mae’n helpu i gefnogi’r economi yn Sir Ddinbych ac mae yna gymaint i’w gynnig.”

Ychwanegodd: “Mae hwn yn amser perffaith o’r flwyddyn i gael rhywbeth gwahanol i rywun arbennig sydd gan bopeth. Allwch chi ddim rhoi pris ar atgof gyda rhywun arbennig, profiad newydd neu ddysgu sgil newydd.  Mae’n rhywbeth arbennig a hudol. Fel llawer o fusnesau antur rydym yn gwerthu tocynnau rhodd ar ein gwefan ac yn gallu eu haddasu ar gyfer unrhyw un o’n sesiynau.”

Mae Caroline a ProAdventure Llangollen ymysg nifer o fusnesau annibynnol sy’n cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol a gynhelir gan Gyngor Sir Ddinbych i annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Agorodd ProAdventure yn 1991 ac mae’n fanwerthwr antur awyr agored arbenigol sy’n gwerthu popeth o bebyll tipi, offer byw yn y gwyllt, dillad ac offer awyr agored ar gyfer coginio a byw’n gyfforddus yn yr awyr agored anhygoel.

Mae Peter Carol yn rhedeg y busnes gyda’i wraig Lesley sy’n arweinydd mynydd hyfforddedig, arweinydd canŵ cymwys a hyfforddwr Cerdded Nordig.

Peter Carol o ProAdventure

Dywedodd Peter sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn hyfforddiant antur awyr agored a gwyliau: “Mae Chwaraeon Antur yn boblogaidd iawn yn Sir Ddinbych ac rydym yn ei weld yn tyfu. Mae yna hefyd gefn gwlad godidog i bobl fynd i fforio.

“Mae nawr yn amser gwych i baratoi ar gyfer y flwyddyn newydd, neu i’r sawl sy’n brofiadol yn yr awyr agored, gallwch drwsio, golchi neu baratoi offer gyda’r cyflenwadau sydd gennym yn y siop. Mae’r cynnyrch rydym yn eu gwerthu yn dangos ein cariad at gerdded, gwersylla, diwylliant Sgandinafaidd a byw yn yr ardd gefn. 

“Rydym hefyd yn gwneud dewisiadau prynu gofalus tra’n cymryd effaith amgylcheddol a wneir gan gynnyrch ac mae hyn yn cynnwys dewisiadau ar yr hyn rydym yn ei werthu ac o ble rydym yn ei brynu, dod o hyd i drydan adnewyddadwy a defnyddio golau LED drwy’r siop.

“Mae gennym gymuned fusnes sy’n cefnogi chwaraeon yma yn Llangollen a byddem yn annog siopwyr i edrych ar eu stryd fawr leol y Nadolig hwn a meddwl y tu allan i’r blwch wrth chwilio am anrhegion.”

Gall siopwyr helpu drwy rannu profiadau a chynnyrch da ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn ac yn argymell fod pobl eraill hefyd yn #CaruBusnesauLleol.

Gallwch gymryd rhan drwy fynd i www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...