llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Ystafell de yn arllwys cefnogaeth i fusnesau lleol

Mae sefydliad yn Sir Ddinbych yn cynnig y cyfuniad perffaith o ddanteithion Cymreig ar gyfer bwydgarwyr ac anrhegion gan grefftwyr gydag elfen o gefnogaeth a chynaliadwyedd lleol. 

Dywed Jackie Feak, Swyddog Gweinyddol a Busnes Ystafell De’r Cyfieithwyr yng Nghadeirlan Llanelwy, fod y sefydliad yn gweithio’n galed i gynnig a chefnogi cynnyrch lleol ochr yn ochr â gofalu am yr amgylchedd gyda’r gwasanaeth y maent yn ei gynnig.

Agorodd Ystafell De’r Cyfieithwyr, sy’n swatio yng ngwaelodion y gadeirlan, am y tro cyntaf ym Mai 2018 ac mae’n prysur ddod yn un o brif fannau cyfarfod trigolion lleol ac ymwelwyr, oherwydd ei ymrwymiad cadarn i gynaliadwyedd lleol.

Mae’r sefydliad yn Llanelwy yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau a siopau lleol y gaeaf hwn.

Bydd cwsmeriaid sy’n camu trwy ddrysau’r ystafell de yn cael eu temtio gan ddewis o ginio ysgafn, teisennau cartref, diodydd ysgafn a diodydd poethion. Mae’r rhan fwyaf o’r fwydlen yn cael ei pharatoi yn ffres ar y safle.

Eglurodd Jackie: “Mae’n holl deisennau, cawliau a brechdanau yn rhai cartref, cawn ein hatgoffa’n gyson rhai cystal yw’r sgons! Rydym yn ceisio cael gafael ar gymaint ag y gallwn o gynnyrch yn lleol ac yn foesol. Rydym wedi ein lleoli yng ngwaelodion y gadeirlan, felly mae’r olygfa trwy’r ffenestri yn un unigryw.

Mae Ystafell De’r Cyfieithwyr yn cael gafael ar nifer o gynnyrch lleol o Sir Ddinbych. Mae’r iogwrt sydd ar werth o Llaeth y Llan, rydym yn gwerthu hufen iâ Chilly Cow a ham sy’n cael ei gyflenwi gan y cigydd Daniel Jones yn Llanelwy.

Daw’r bara o Fecws Tan Lan, sydd ond ar draws y ffordd yng Nghonwy ynghyd â chyflenwad o Goffi Heartland a chreision a phopgorn gan Jones o Gymru ym Mhwllheli.

Ac nid bwyd gan gynhyrchwyr y sir a Gogledd Cymru yn unig sydd ar gael, mae Ystafell De’r Cyfieithwyr hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer crefftwyr yr ardal, trwy greu estyniad yn ardal y siop ar y safle.

Dywedodd Jackie: “Mae gennym siop fechan yr ydym yn gobeithio ehangu cyn y Nadolig. Mae gennym eisoes nwyddau masnach Cadeirlan Llanelwy, gan gynnwys cylchau allweddi a magnedau oergell wedi eu gwneud gan Bryn Jones o Fetws y Coed, cardiau Cymraeg gan Nansi Nudd, cardiau eraill gan y ffotograffydd lleol Chris Wilkinson (Special Sightings) o Brestatyn, amrediad o jamiau wedi eu brandio gan y Gadeirlan, siytni gan Welsh Lady Preserves, a gwaith celf gan Miles o oriel Myrtle House ar odre’r ddinas.” 

“Rydym yn aelod o Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd (CRTG) ac yn gweithio tuag at gynnig hyd yn oed mwy o gynnyrch lleol- pan fydd yr ardal siop newydd yn barod, byddwn yn edrych am gyflenwyr newydd.”

Mae Ystafell De’r Cyfieithwyr yn edrych ymlaen at brosiect cynaliadwyedd yn y dyfodol, diolch i dalp o’r gorffennol ar y tir maent wedi eu lleoli arno.

Eglurodd Jackie: “Rydym hefyd yn gobeithio dechrau gwerthu planhigion o’r ardd dreftadaeth newydd yng ngwaelodion y gadeirlan fel modd o gadw ardal yr ardd i fynd.”

Mae gwarchod yr amgylchedd y maent yn gweithio ac yn byw ynddo hefyd yn hynod bwysig i staff Ystafell De’r Cyfieithwyr.

Dywedodd Jackie: “Mae ein holl ddeunydd pacio yn ailgylchadwy ac/ neu mae modd ei gompostio megis ein cynhwyswyr cludfwyd. Mae Cadeirlan Llanelwy newydd ennill gwobr efydd ‘Eglwys Eco’ ac rydym yn gweithio tuag at gael ein cynnwys yn y wobr arian hefyd.

Mae Ystafell De’r Cyfieithwyr yn annog siopwyr i arllwys eu cefnogaeth i’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol a chyffroi masnach gadarnhaol i fusnesau lleol yn eu trefi sirol priodol.

Ychwanegodd Jackie: “Y mwyaf o bobl sy’n siopa’n lleol y cryfaf fydd yr hyn sy’n cael ei gynnig yn lleol, a bydd mwy o ddewis ar gael. Er bod siopa ar-lein yn haws, mae’r cysylltiadau personol yn sicr yn gwneud gwahaniaeth, ac yn golygu mwy.” 

Gall siopwyr helpu trwy rannu eu profiadau a chynnyrch gwych ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gadael i bobl wybod eu bod yn siopa’n lleol y gaeaf hwn ac annog eraill i #GaruBusnesauLleol hefyd.

Gallwch gymryd rhan trwy ymweld â www.sirddinbych.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...