llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Gall hen ddodrefn crand helpu’r amgylchedd

Os prynwch chi hen greiriau neu ddodrefn ail law y Nadolig hwn gallech fod yn helpu’r amgylchedd wrth ychwanegu rhywfaint o steil i’ch cartref, meddai un gwerthwr dodrefn yn Sir Ddinbych.

Mae Carole Derbyshire-Styles wedi bod yn berchen ar y Vintage Home Styles Emporium yng Nghorwen ers chwe blynedd ac mae’n cynnig amrywiaeth fendigedig o hen greiriau, hen ddodrefn crand a phethau i’r cartref.

Ar ôl bod ar gau am gyfnod oherwydd y pandemig Covid-19, aeth Carole ati i ehangu ei siop wreiddiol i le mwy ar Heol Llundain sydd hefyd â chaffi erbyn hyn.

Yn ogystal â chynnig dewis mwy helaeth o eitemau, mae Carole yn cynnal marchnad ar ddydd Sul cyntaf bob mis gan roi lle i werthwyr dodrefn a chrefftwyr yn ogystal â therapydd harddwch a hyfforddwr personol, ac fe gynhelir y digwyddiadau nesaf ar 5 Rhagfyr.

Arferai Carole fod yn nyrs yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae’n dweud: “Dwi wastad wedi bod efo diddordeb mewn prynu a gwerthu dodrefn, mi ddechreuais i fynd i ocsiynau efo fy nhad pan oeddwn i’n byw yn Lerpwl. 

 “Mi symudais i Gorwen dri deg un o flynyddoedd yn ôl efo babi deg diwrnod oed a phlentyn arall oedd yn bedair. Roedden ni’n adeiladu tŷ ein hunain ac roedd pres yn brin, ond mi ddechreuais i fynd i ocsiynau i brynu dodrefn i’r tŷ a wnes i byth roi’r gorau iddi.

 “Ar ôl i’r genod adael cartref mi ddaeth hi’n amser imi drio gwireddu fy mreuddwyd ac agor siop fy hun, a dyna lle ddechreuodd y Vintage Home Styles Emporium.

“Rydyn ni’n cynnig lle braf i bobl ddod i chwilota drwy hen greiriau, hen ddodrefn crand, pethau i’r cartref a chrefftau, i gyd o ansawdd da, ac mae’n lle cysurus i gwrdd efo ffrindiau, cael paned neu damaid o ginio a sgwrs.”

Mae Carole yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Mae Carole yn dweud y gall prynu hen greiriau a hen ddodrefn ac anrhegion crand gael effaith gadarnhaol ar newid hinsawdd.

Meddai: “Mae ailgylchu’n rhan fawr o fy musnes i, mae uwchgylchu ac ailddefnyddio dodrefn yn hytrach na’i fod yn cael ei gladdu o dan ddaear yn rhan fawr o fy ethos gwaith.

“Mae prynu hen greiriau a hen ddodrefn crand yn rhoi steil unigryw i’r cartref, ond mae hefyd yn golygu nad ydi’r eitemau’n mynd i safleoedd tirlenwi a bod dim angen gwneud dodrefn newydd, ac felly mae’n osgoi’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n digwydd wrth gynhyrchu pethau newydd, eu pecynnu, eu cludo a chael gwared arnyn nhw.”

Mae Vintage Home Styles Emporium yn un o blith nifer o fusnesau annibynnol lleol ledled Sir Ddinbych ac mae Carole yn annog siopwyr i ymweld â threfi’r Sir y Nadolig hwn.

Meddai: “Dwi wrth fy modd yn sôn wrth bobl am Gorwen, y llefydd braf i fynd am dro a phethau fel yr amgueddfa, y trên stêm a holl hanes difyr y dref. Mae yma lwyth o siopau, caffis, bwytai a thafarndai gwerth chweil, ac ar ôl y deunaw mis diwethaf mae’n bwysig fod pobl leol yn ein cefnogi ni’r gaeaf yma.

 “Mae siopa’n lleol yn rhoi hwb aruthrol i fusnesau lleol ac mae’n helpu i gynnal ein economi a chreu swyddi yma yn Sir Ddinbych. Dwi’n annog pawb yn y sir i ymweld â’u trefi lleol i weld beth sydd ar gael.”

Gall siopwyr helpu drwy rannu profiadau a chynnyrch da ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn ac yn argymell fod pobl eraill hefyd yn #CaruBusnesauLleol.

Gallwch gymryd rhan drwy fynd i www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...