llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Cludiant gwyrddach yn tyfu yng Nghanolfan y Dderwen

Mae canolfan gofal plant yn y Rhyl yn darparu cludiant gwyrddach i blant sy’n defnyddio’r cyfleuster.

Mae Canolfan Plant Integredig, Canolfan y Dderwen wedi symud i fflyd sy’n fwy ystyriol o’r amgylchedd fel rhan o ymgyrch y Cyngor i leihau allyriadau carbon.

Bu i'r Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Di-garbon Net a mwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae’r ymgyrch i leihau allyriadau carbon ar draws y Cyngor yn cynnwys lleihau’r allyriadau carbon o gerbydau fflyd.

Cerbydau trydan fydd bellach yn gyfrifol am gludo’r plant sy’n rhan o Ofal Plant Little Acorns, sydd wedi’i lleoli yn y ganolfan.

Yn eu plith mae dau fws mini-Citroen e-Spacetourer naw sedd gydag ystod o hyd at 136 o filltiroedd a hefyd fan Peugeot e-Expert gydag ystod o 143 milltir.

Bydd y ganolfan yn defnyddio’r bysiau bedair gwaith y dydd i gludo plant i’r ysgolion a’u nôl a hefyd bydd Ysgol Christchurch yn eu defnyddio i gludo eu plant i ddigwyddiadau.

Byddant hefyd yn cael eu defnyddio yn ystod gwyliau ysgol i fynd â’r plant a chlybiau gwyliau ar deithiau.

Mae’r Tîm Ceidwaid Chwarae sydd hefyd yn y ganolfan, ac sy’n darparu sesiynau chwarae mynediad agored mewn ardaloedd cymunedol ar hyd a lled y sir, hefyd wedi cael fan drydan Ceidwaid Chwarae i gefnogi eu gwasanaeth. Bydd y fan yn cefnogi’r ffordd y mae’r Tîm Ceidwaid Chwarae yn defnyddio rhannau rhydd ac eitemau wedi eu huwchgylchu yn eu sesiynau chwarae i fodelu i’r plant sut i ddefnyddio ac ailgylchu eitemau bob dydd yn eu chwarae.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gweithio’n galed iawn i leihau ôl troed carbon ein fflyd drwy gael cerbydau gwyrddach yn lle ein cerbydau tanwydd ffosil pan fo hynny’n briodol i’r gwasanaeth.

“Mae’n wych bod gan y ganolfan y cerbydau hyn gan y bydd hefyd yn helpu i addysgu’r plant hŷn am ba mor bwysig yw hi i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ar gyfer eu dyfodol wrth deithio o amgylch y dalgylch yn y cerbydau trydan.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...