Cyngor yn cael ei anrhydeddu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae'r Cyngor yn falch iawn o fod yn un o’r 12 cyflogwr yng Nghymru sydd ymhlith y 156 o sefydliadau cenedlaethol a anrhydeddwyd â Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn am ei gefnogaeth eithriadol i gymuned y Lluoedd Arfog.
Fel yr anrhydedd uchaf bosibl, dyfernir Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr i rai sy’n cyflogi ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Gwahoddir y 12 enillydd o Gymru i gael eu gwobr yn hwyrach yn y flwyddyn mewn digwyddiad arbennig yn Stadiwm y Principality.
Er mwyn ennill gwobr gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, rhaid i sefydliadau ddangos eu bod yn darparu 10 diwrnod ychwanegol o wyliau â thâl i filwyr wrth gefn a bod ganddynt bolisïau AD cefnogol yn eu lle i gyn-filwyr, milwyr wrth gefn a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Rhaid iddynt hefyd eirioli manteision cefnogi’r rhai sydd yn nghymuned y Lluoedd Arfog drwy annog eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yn y Cabinet, ac sydd hefyd yn Gefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae hon wir yn anrhydedd fawr i Sir Ddinbych.
“Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn y Cyngor i gefnogi ein cymunedau lluoedd arfog ac rydym wrth ein boddau bod ein dull o greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol ble mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, wedi cael ei gydnabod gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Rydym wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog fel datganiad y bydd y Cyngor yn sicrhau bod y rhai sy’n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Rydym yn edrych ymlaen at gryfhau a datblygu ein cysylltiadau ag unigolion, cymunedau a sefydliadau’r lluoedd arfog a pharhau i fod yn sefydliad cefnogol a chynhwysol”.