llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

Cartref y fôr-wennol fach yn cadw ei statws Baner Werdd

Mae safle sy’n gartref i gytref adnabyddus o fôr-wenoliaid bach wedi cadw ei statws Baner Werdd.

Mae'r Cyngor wedi croesawu’r newyddion bod Twyni Gronant wedi cadw statws y Faner Werdd ar gyfer 2022/ 23.

Mae’r Faner Werdd a ddyfernir gan Cadwch Gymru’n Daclus yn arwydd i’r cyhoedd bod parc neu fan gwyrdd yn rhywle â’r safonau amgylcheddol gorau posibl, yn cael ei ofalu amdano hyd y safonau uchaf a bod yno gyfleusterau rhagorol ar gyfer ymwelwyr.

Enillodd y twyni’r Faner Werdd fawreddog am y tro cyntaf y llynedd ac mae’n darparu safon ansawdd a fframwaith cenedlaethol ar gyfer mannau gwyrdd.

Y gytref o fôr-wenoliaid bach ar draeth Gronant ger Prestatyn yw’r gytref fridio fwyaf yng Nghymru.

Mae’r traeth yn adnabyddus yn rhyngwladol gan ei fod yn cyfrannu dros 10 y cant o’r holl boblogaeth o fôr-wenoliaid bach sy’n bridio yn y DU a hefyd yn ategu cytrefi eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu a Chynllunio’r Cabinet: “Mae ein Gwasanaeth Cefn Gwlad yn falch tu hwnt bod Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Gronant wedi cadw’r Faner Werdd.

“Mae’r twyni’n wych o safbwynt eu cymeriad a’r dirwedd a hefyd oherwydd eu gwerth bioamrywiaeth pwysig. Maen nhw hefyd yn gartref i gytref ffyniannus o fôr-wenoliaid bach diolch i gefnogaeth ein staff a’n gwirfoddolwyr.

“Mae llawer iawn o ymdrech wedi’i wneud i gynnal seilwaith y safle er mwyn i ymwelwyr a phreswylwyr gael mwynhau harddwch naturiol yr ardal ond gan darfu cyn lleied â phosib arni a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio  mor galed i wireddu hyn.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...