llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

Tacsi gwyrdd pellter hir newydd yn mynd yn fyw

Mae cerbyd newydd wedi’i ychwanegu i gynllun tacsi peilot yn Sir Ddinbych.

Yn dilyn adborth a gafwyd trwy gynnal unig beilot y cynllun tacsi gwyrdd heb allyriadau yng Ngogledd Cymru, mae’r Cyngor wedi cyflwyno cerbyd electronig newydd pellter hwy.

Yn ddiweddar, gosododd Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu’r cynllun, nod o ddatgarboneiddio’r fflyd tacsis yn gyfan gwbl erbyn 2028.

Mae'r Cyngor yn unol o grŵp bach dethol o awdurdodau Cymru sy’n cymryd rhan.

Ers iddo ddechrau yn y Sir yn ystod yr hydref 2021, mae 59 o yrwyr tacsi wedi gyrru pedwar tacsi Nissan Dynamo E-NV200 sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, i’w defnyddio fel rhan o’r ‘cynllun profi cyn prynu’.

Gall gyrwyr tacsis Hacni trwyddedig brofi cerbyd am ddim am 30 diwrnod, gan gynnwys pwyntiau gwefru trydan am ddim mewn lleoliadau penodol yn y sir, trwydded cerbyd, yswiriant a pholisi torri i lawr.

Hyd yma, mae’r tacsis wedi teithio 56759 o filltiroedd ac wedi gweithredu ar draws Prestatyn, y Rhyl, Bodelwyddan, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun a Chorwen.

A nawr, yn dilyn mewnbwn gan yrwyr sy’n defnyddio’r cynllun, bydd Kia EV6 yn ymuno â’r fflyd bresennol.

Gall Kia deithio hyd at 328 o filltiroedd ar un gwefriad ac mae wedi’i ddylunio i ganiatáu i yrwyr tacsi weithio shifft gyfan yn hyderus gan gynnwys teithiau i feysydd awyr heb fod angen gwefru.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma un o nifer o brosiectau mae’r Cyngor yn eu rhedeg ar gerbydau trydan a fydd yn helpu i greu amgylchedd mwy iach a lleihau allyriadau carbon ar draws y sir.”

“Rydym wedi cael llawer o adborth cadarnhaol a defnyddiol gan y gyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn i roi cynnig ar y tacsis heb allyriadau hyn a dysgu am eu buddion. Un o’r meysydd a awgrymwyd oedd edrych ar gyflwyno cerbydau pellter hwy i gynorthwyo â chludiant y tu allan i’r sir ac yn ôl.

“Bydd y cerbyd hwn yn darparu amgylchedd eang, modern a moethus i deithwyr gyda lle cyfforddus, dim sŵn, dirgryniadau nac allyriadau pibellau mwg.

“Mae hefyd yn ein helpu i barhau i gael adborth am ddefnyddio cerbydau heb allyriadau mewn gweithrediadau tacsi o ddydd i ddydd heb gyfaddawdu ar ddarpariaeth gwasanaeth, a dangos yr arbedion o ran tanwydd a’r effaith yn erbyn newid hinsawdd mae cerbydau trydan yn eu cynnig ar hyn o bryd.

“Rydym yn edrych ymlaen at wrando ar brofiadau gyrwyr sy’n defnyddio’r tacsi hwn i’n helpu i barhau i fapio dyfodol y cynllun gwyrdd hwn.”

Bydd y cerbyd ar gael i yrwyr sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y cynllun yn unig, heb ddigwyddiadau difrifol ac mae lleoedd wedi’u cyfyngu ar hyn o bryd i 10 x cyfnod llogi 30 diwrnod dros y 12 mis nesaf.   

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...