Tachwedd 2026

12/11/2026

Ailgylchu’n dod yn fyw i ddisgyblion yn Ysgol Pant Pastynog

Mae disgyblion Ysgol Pant Pastynog wedi cael eu helpu i ddod yn gefnogwyr ailgylchu cryfach diolch i ymweliad arbennig â’r ysgol.

Aeth Tîm Addysg Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych i’r ysgol am fore o weithgareddau ymarferol a thrafodaethau, i helpu disgyblion ddeall beth sy’n digwydd i’w hailgylchu a pham ei bod yn bwysig ei ddidoli’n gywir.

Dilynodd y sesiwn ddeunyddiau y mae modd eu hailgylchu ar ôl iddynt gael eu casglu i ddangos y daith ac arferion ailgylchu da i’r disgyblion.

Ymunodd y ddau fasgot ailgylchu newydd, Troli-bob a Cadi â’r ymweliad i helpu disgyblion roi eitemau cyfarwydd o’r cartref yn y cynwysyddion ailgylchu cywir. 

Er mwyn dod â’r gwersi’n ôl i fywyd bob dydd, cyflwynwyd y tîm system Trolibocs y Cyngor, sy’n helpu i ddidoli papur, caniau a phlastigau cymysg, a photeli gwydr a jariau ar ymyl y palmant. Dangosodd y gweithgareddau sut mae didoli ailgylchu'n gywir yn y cartref yn gwella ansawdd y deunyddiau a gesglir a chefnogi ymdrechion i leihau gwastraff ac allyriadau carbon.

Cafodd y disgyblion weld un o gerbydau Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor hefyd, sy’n casglu deunyddiau y mae modd eu hailgylchu o gartrefi ym mhob cwr o’r sir.

Gwelodd disgyblion sut mae rhannau ar wahân yn cadw deunydd ar wahân yn ystod casgliadau, cyn iddynt fynd i’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych i’w prosesu.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Roedd yn hyfryd gweld y disgyblion yn Ysgol Pant Pastynog yn gofyn cwestiynau, cefnogi ei gilydd a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd. Gobeithio eu bod yn teimlo’n falch o’r hyn wnaethon nhw ei ddysgu a’u bod wedi mynd â’r brwdfrydedd adref, gan wybod bod pob eitem a gaiff ei hailgylchu’n gywir yn gallu gwneud gwahaniaeth i’w cymuned.”

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ymweliadau fel hyn yn rhoi ffordd gofiadwy i ddisgyblion weld sut mae ailgylchu’n gweithio. Roedd yn wych clywed bod Ysgol Pastynog wedi croesawu’r sesiwn yn frwd, a gobeithio y bydd y disgyblion yn rhannu eu gwybodaeth newydd gyda theulu a ffrindiau wrth i ni gydweithio i ailgylchu mwy a gwastraffu llai yn Sir Ddinbych.”

Comments