Tachwedd 2026

30/10/2026

Prosiect newydd ‘Bywydau Egnïol’ yn helpu trigolion i gysylltu, bod yn egnïol a theimlo’n rhan o’u cymuned

Mae prosiect newydd dan arweiniad y gymuned yn cyfuno gweithgareddau awyr agored, cymorth lleol a chyfleoedd i feithrin cysylltiadau ystyrlon, gan helpu trigolion i gymryd rhan mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw.

Mae trigolion ledled Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, o brosiectau cadwraeth a gweithgareddau awyr agored i sesiynau galw heibio anffurfiol yn y gymuned, diolch i fenter newydd sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl i fod yn fwy egnïol, i feithrin cysylltiadau ac i gymryd mwy o ran mewn bywyd lleol.

Wedi’i lansio ym mis Awst 2026, mae prosiect Arloesi Bywydau Egnïol yn dod â dwy raglen lwyddiannus, Cymunedau Actif a Natur er Budd Iechyd, ynghyd i greu cynnig ledled y sir sydd wedi’i lunio gan bobl leol a’u cymunedau.

Yn hytrach na darparu rhaglen sy’n ceisio cynnig yr un peth i bawb, mae Bywydau Egnïol yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar le, gan weithio gyda thrigolion i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw a datblygu cyfleoedd sy’n adlewyrchu diddordebau, cryfderau a dyheadau lleol.

Mae’r prosiect yn cael ei ddarparu gan Wasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych a chanolfan gymunedol Grŵp Cynefin, HWB Dinbych, gyda chefnogaeth gydlynu gan Dîm Cydnerthedd Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych.

Yn HWB Dinbych Grŵp Cynefin yn Ninbych, mae Swyddog Actif, Meg Moores, yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl leol i ddeall eu hamgylchiadau, nodi’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan a’u cysylltu â chyfleoedd a all eu helpu i gymryd mwy o ran ym mywyd y gymuned.

Mae sesiynau Galw Heibio Te a Choffi wythnosol, sy’n cael eu cynnal bob dydd Iau, yn darparu lle croesawgar lle gall pobl gwrdd ag eraill, cael gafael ar gymorth a darganfod gweithgareddau mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol.

Mae’r prosiect eisoes yn ymateb i adborth gan y gymuned, gyda gweithgareddau fel sesiynau ymarfer corff o gadair freichiau yn cael eu cyflwyno yn seiliedig ar yr hyn y mae cyfranogwyr wedi dweud yr hoffent ei weld.

Mae’r dull hyblyg hwn yn sicrhau bod pobl leol yn helpu i lunio’r prosiect o’r cychwyn cyntaf, gan greu gweithgareddau sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned mewn gwirionedd.

Meddai Elain Lloyd, Cydlynydd yn HWB Dinbych:

“Yn HWB Dinbych, rydym yn gweld bob dydd pa mor bwysig yw hi i bobl wybod bod cymorth ar gael pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae Bywydau Egnïol yn ymwneud â chreu cyfleoedd croesawgar i bobl gymryd rhan mewn ffyrdd sy’n addas iddyn nhw. Drwy wrando ar bobl leol ac ymateb i’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, rydym yn helpu i feithrin hyder, cryfhau cysylltiadau cymunedol a chefnogi llesiant ledled Sir Ddinbych.”

Mae Bywydau Egnïol hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ymgysylltu â’u cymunedau drwy’r amgylchedd naturiol. Mae sesiynau rheolaidd dan arweiniad ceidwaid cefn gwlad, a ddarperir gan dîm Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, yn cynnig ffordd groesawgar o ddysgu sgiliau newydd, gwella llesiant a threulio amser yn yr awyr agored.

O reoli coetiroedd a gwella cynefinoedd i gynnal a chadw llwybrau a gwaith cadwraeth ymarferol, gall cyfranogwyr chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ofalu am fannau gwyrdd lleol, gan feithrin hyder, gwneud cysylltiadau a phrofi manteision byd natur ar yr un pryd.

Yn bwysig, mae Bywydau Egnïol yn cydnabod nad yw gwasanaethau cymorth traddodiadol yn addas i bawb. Gall trigolion alw heibio HWB Dinbych i gael sgwrs dros baned, neu ymuno â sesiwn ymarferol yn yr awyr agored gyda Cheidwad Cefn Gwlad, gan sicrhau bod y prosiect yn cynnig ffordd anffurfiol a di-bwysau i bobl archwilio diddordebau newydd, cwrdd ag eraill a chymryd mwy o ran yn eu cymuned.

Mae’r pwyslais ar sgyrsiau ystyrlon, meithrin perthnasoedd a helpu pobl i deimlo eu bod yn gysylltiedig, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o’u cymunedau lleol.

Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Rhaglen Arloesi Anweithgarwch Economaidd yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Mae prosiect Arloesi Bywydau Egnïol yn ymwneud â chreu cyfleoedd sy’n adlewyrchu anghenion pobl leol mewn gwirionedd. Drwy ein partneriaeth â HWB Dinbych a Gwasanaethau Cefn Gwlad, rydym yn helpu trigolion i wella eu llesiant, meithrin hyder, datblygu cysylltiadau newydd a chymryd mwy o ran yn eu cymunedau. Yr hyn sy’n gwneud y prosiect hwn yn arbennig yw ei fod yn dechrau drwy wrando. Mae’r gweithgareddau’n cael eu llunio gan y bobl sy’n cymryd rhan, gan helpu i sicrhau bod y cymorth yn hygyrch, yn groesawgar ac yn ystyrlon i bawb.”

Dywedodd y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol dros Gynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:

“Mae prosiect Bywydau Egnïol yn cynnig cyfle i drigolion gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw mewn amgylchedd gwahanol i leoliadau mwy traddodiadol, gan ddysgu sgiliau ymarferol a gwneud gwahaniaeth gweladwy i’w cymunedau lleol ar yr un pryd.

“Drwy’r bartneriaeth hon, y gobaith yw y gall trigolion gael y cymorth maen nhw’n chwilio amdano, wrth archwilio diddordebau newydd, cwrdd â phobl newydd a chwarae rhan yn y gwaith o ofalu am fannau gwyrdd Sir Ddinbych.”

Ymunwch â mudiad Bywydau Egnïol

Gall trigolion alw heibio i sesiynau Te a Choffi wythnosol HWB Dinbych bob dydd Iau neu ymuno ag un o’r gweithgareddau awyr agored sy’n cael eu cynnal ledled y sir.

Mae’r sesiynau sydd ar y gweill yn cynnwys rheoli coetiroedd, gwella cynefinoedd, cynnal a chadw llwybrau a phrosiectau amgylcheddol mewn lleoliadau gan gynnwys y Rhyl, Dinbych, Corwen a Llangollen.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Alice.Cousens@sirddinbych.gov.uk / 07385 491616

HWB Dinbych

hwb@hwbdinbych.org / 01745 818485

P’un a ydych chi’n awyddus i gwrdd â phobl newydd, treulio mwy o amser yn yr awyr agored, dysgu sgiliau newydd neu roi cynnig ar rywbeth gwahanol, mae Bywydau Egnïol yn cynnig ffordd groesawgar o gymryd rhan yn eich cymuned.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Arloesi Cymru a’r DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, y Gronfa Twf Lleol i Gymru (LGF), a Cysylltu â Gwaith.

Comments