Tachwedd 2026

03/11/2026

Achos o dipio anghyfreithlon yn cael ei recordio gan un o gamerâu’r Cyngor

Mae achos o dipio anghyfreithlon wedi cael ei recordio gan un o gamerâu troseddau amgylcheddol y Cyngor ac wedi arwain at adnabod y troseddwr a rhoi Rhybudd Cosb Benodedig iddo.

Cafodd y digwyddiad ei recordio gan un o gamerâu cudd y Cyngor, a ddefnyddir mewn lleoliadau lle mae achosion ailadroddus o droseddau amgylcheddol.

Yn dilyn y digwyddiad, cynhaliodd Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych ymchwiliad trylwyr, gan adolygu’r lluniau a oedd ar gael a chasglu gwybodaeth bellach i ganfod pwy oedd yn gyfrifol.

Llwyddodd yr ymchwiliad i adnabod yr unigolyn dan sylw, a rhoddwyd Rhybudd Cosb Benodedig iddo am y drosedd tipio anghyfreithlon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol:

“Dyma enghraifft wych o’r ffordd y gall ein camerâu troseddau amgylcheddol wneud gwahaniaeth go iawn.

“Dim ond un rhan o’r broses yw gosod camera. Ar ôl hynny mae’r gwaith pwysig yn digwydd, sef adolygu’r lluniau, casglu gwybodaeth, adnabod y rheiny sy’n gyfrifol a chreu sylfaen tystiolaeth sy’n caniatáu i ni gymryd camau priodol.

“Yn yr achos hwn, cynhaliodd ein tîm ymchwiliad trylwyr a llwyddwyd i adnabod yr unigolyn a oedd yn gyfrifol, gan arwain at roi Rhybudd Cosb Benodedig iddo.

“Rydym am i’n cymunedau fod yn lân, yn ddiogel ac yn lleoedd y mae preswylwyr yn falch o fyw ynddyn nhw. Byddwn yn parhau i gyfuno atal ac addysg gyda gorfodaeth gymesur i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ledled y sir.”

Mae gan Gyngor Sir Ddinbych nifer o gamerâu cylch cyfyng cudd mewn lleoliadau lle mae tipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill wedi cael eu nodi fel problemau parhaus.

Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor yn defnyddio cyfuniad o addysg, mesurau atal, gwybodaeth, gwaith partneriaeth a gorfodaeth i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella amgylcheddau lleol.

Wedi gweld achos o dipio anghyfreithlon? Rhowch wybod amdano!

Os oes gennych wybodaeth am achos o dipio anghyfreithlon, rhowch wybod i’r Cyngor. Pan fo’n bosibl, nodwch y lleoliad, dyddiad ac amser, disgrifiad o’r unigolyn neu’r cerbyd dan sylw ac unrhyw rifau cofrestru cerbydau.

Gall y wybodaeth hon helpu swyddogion i ymchwilio i ddigwyddiadau ac adnabod y rheiny sy’n gyfrifol.

 

Comments