10/11/2026
Cydnabyddiaeth Genedlaethol ‘Ragorol’ i bartneriaeth Gwarchodfa Natur Rhuddlan

Mae partneriaeth sy’n helpu bywyd gwyllt i ffynnu ac sy’n dod â phobl yn agosach at natur yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol gyda gwobr Lefel 5 ‘Rhagorol’.
Cafodd y warchodfa ei hanrhydeddu’n ddiweddar yn y categori Eich Cymdogaeth Chi yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2026 yn Nhalgarth, Powys.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan wedi bod yn rheoli’r safle ar y cyd ers 2011, gan gydweithio i greu noddfa i natur a man croesawgar sy’n cefnogi lles y gymuned.
Dros y blynyddoedd, mae’r gwelliannau wedi cynnwys dwy ddôl blodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 metr o wrychoedd, hadu blodau gwyllt ar ymylon ffyrdd a phlannu 6,000 o goed. Mae perllan â rhywogaethau treftadaeth, dwy ardal bicnic a llwyfan rhwydo mewn pyllau hefyd wedi’u cyflwyno.
Mae gofod sy’n gyfeillgar i ddementia hefyd wedi’i greu, sy’n dod â nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol ynghyd, gan gynnwys waliau cerrig sych a gwrychoedd wedi’u plygu, ochr yn ochr â seddi coed derw Cymreig traddodiadol.
Mae bywyd gwyllt yn ffynnu yn y warchodfa, gyda dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr ymysg y rhywogaethau a welwyd. Mae’r rhain ymhlith y mamaliaid sy’n dirywio gyflymaf yn y DU.
Mae cynllun ‘Eich Cymdogaeth Chi’ yn cydnabod grwpiau garddio cymunedol a arweinir gan wirfoddolwyr sy’n canolbwyntio ar lanhau a glasu eu hardal. Dyfarnodd Cymru yn ei Blodau Lefel 5 ‘Rhagorol’ i bartneriaeth Rhuddlan i gydnabod ei gwaith.
Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan: “Hoffwn ddiolch o galon i bob aelod o’r pwyllgor am yr egni a’r ymrwymiad y maent yn ei gyfrannu at y warchodfa. Mae eu hagwedd gadarnhaol a rhagweithiol yn gwneud gwahaniaeth go iawn, a chredaf eu bod yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ofynnir ohonynt yn gyson.
“Hoffwn ddiolch i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, ei warcheidwaid a’r gwirfoddolwyr gwych sy’n eu cefnogi. Mae eu hymroddiad i ofalu am y warchodfa, ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau mewn gwarchodfeydd natur eraill ledled gogledd Sir Ddinbych, yn haeddu cydnabyddiaeth go iawn.”
Dywedodd y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol dros Gynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel: “Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn dangos beth all cydweithio ei gyflawni i fywyd gwyllt a’r gymuned leol. Mae ymgysylltiad y Gwasanaethau Cefn Gwlad â’r bartneriaeth hon wedi helpu i gefnogi natur gan greu lle y gall pobl ddychwelyd iddo a’i fwynhau yn rheolaidd ar yr un pryd.
“Mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn dathlu’r gwaith sy’n digwydd ar y cyd y tu ôl i’r warchodfa. Edrychaf ymlaen at weld y gofod cymunedol pwysig hwn yn parhau i ffynnu a datblygu mewn blynyddoedd i ddod.”
Nodiadau i Olygyddion:
Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn gwbl hygyrch i bawb. Mae’r safle wedi’i drawsnewid yn lleoliad i fywyd gwyllt ffynnu ac i bobl leol ac ymwelwyr ei fwynhau.
Mae llwybr byr yn tywys ymwelwyr o amgylch y pyllau, lle mae adar yn nythu bob blwyddyn a’r dolydd sydd wedi’u gwella’n ddiweddar mewn partneriaeth â’r gymuned leol ac ysgolion.
Ceir rhagor o wybodaeth am gystadlu yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, ‘Eich Cymdogaeth Chi’, trwy edrych ar https://www.walesinbloom.org/neighbourhood.html