13/11/2026
Gwaith atgyweirio hanfodol ar bont Stryd Fawr Llanelwy

Bydd Pont Afon Elwy ar waelod Stryd Fawr Llanelwy, ar gau rhwng 9am ar 21 Tachwedd tan 5pm ar 22 Tachwedd 2026 ar gyfer gwaith atgyweirio strwythurol hanfodol.
Mae angen gwneud y gwaith yn dilyn gwrthdrawiad traffig ar 22 Hydref 2026.
Yn dilyn archwiliad ac asesiad o’r difrod, fe nodwyd fod angen gwaith atgyweirio i gynnal diogelwch a chadernid y bont. Fe fydd angen cau’r ffordd yn llwyr er mwyn i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel ac yn effeithlon.
Bydd mesurau rheoli traffig a llwybrau dargyfeirio gydag arwyddion ar waith trwy gydol y gwaith. Bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu goruchwylio drwy’r dydd. Bydd y bont yn cael ei hailagor ar ôl i’r gwaith atgyweirio gael ei gwblhau.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae angen y gwaith hanfodol yn dilyn y digwyddiad ar y bont a byddwn yn gwneud pob ymdrech i gwblhau’r gwaith yma mor gyflym ac effeithlon â phosibl gan amharu cyn lleied â phosibl ar breswylwyr a busnesau. Cyn gynted â bod y gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau, bydd y bont yn ailagor.
"Fe hoffem ddiolch i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd yma am eu cefnogaeth a’u hamynedd tra’n bod yn gwneud y gwaith pwysig ar y llwybr yma.”