Tachwedd 2026

06/11/2026

Seremoni i ddadorchuddio cerfluniau wedi’u hailwampio ym Mhrestatyn

Cafodd dau gerflun maint llawn wedi’u hailwampio eu dadorchuddio mewn seremoni’n ddiweddar.

Cynhaliwyd y seremoni ddydd Iau 29 Hydref, i groesawu’r cerfluniau yn ôl i Erddi’r Bryniau ger Gwaenysgor ar ôl iddynt gael eu fandaleiddio yn 2024.

Wedi’u comisiynu’n wreiddiol gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE), cawsant eu creu gan gerflunydd llif gadwyn o Yr Orsedd, Simon O’Rourke.

Wedi’u gosod yn ôl 2017, mae’r ddau ffigur sy’n edrych allan tua’r môr, yn cyfleu cerddwr modern sy’n cynrychioli Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a cherddwr o’r 1920au, yn symboleiddio’r cyfnod yr adeiladwyd y lloches.  

Serch hynny, cawsant eu symud ym mis Awst 2024 ar ôl i fandaliaid eu cnocio oddi ar eu platfform a’u symud â llaw. 

Ar ôl i Mr O’Rourke eu hadfer yn ofalus, mae’r cerfluniau bellach yn barod i ddychwelyd i Brestatyn. 

Dywedodd Simon O'Rourke:

“Pan gefais fy nghomisiynu gyntaf i wneud y ddau gerflun, roeddwn i’n gyffrous i greu rhywbeth a fyddai’n gadael etifeddiaeth barhaol mewn lleoliad hardd.  Dros y blynyddoedd, mae nifer o bobl wedi cymryd lluniau o’r cerfluniau a’u mwynhau, ac maent wedi dod yn rhan o’r gymuned. Roedd hi’n bechod mawr clywed eu bod wedi cael eu fandaleiddio, ond roedd hi’n hyfryd clywed bod cymaint o bobl wedi cydweithio i roi cyfle i mi eu hadfer.

Meddai’r Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol Cynllunio, Cefn Gwlad a Chymunedau Mwy Diogel:

“Mae hi’n hyfryd gweld y bydd y cerfluniau yma unwaith eto’n eistedd yn falch yng Ngerddi’r Bryniau yn dilyn y siom eu bod wedi cael eu fandaleiddio ychydig flynyddoedd yn ôl. Fe hoffwn i ddiolch i Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor, Simon O’Rourke, Cyngor Tref Prestatyn a’r aelodau lleol am eu dyfalbarhad a’u hymdrechion yn dychwelyd y cerfluniau yma sydd yn golygu cymaint i’r gymuned yn ôl ble maent yn perthyn.”

Comments