Tachwedd 2026

11/11/2026

Nodi Diwrnod y Cofio gyda seremonïau yn Neuadd y Sir a Chofeb Ryfel Rhuthun

Daeth pobl o bob rhan o Sir Ddinbych ynghyd heddiw i nodi Diwrnod y Cofio mewn seremonïau yn Rhuthun, gan anrhydeddu’r rhai sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd.

Dechreuodd y digwyddiadau coffáu gyda seremoni codi’r faner y tu allan i Neuadd y Sir, lle ymgasglodd mynychwyr i fyfyrio a chofio’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf wrth wasanaethu eu gwlad.

Llun grwp - dydd y cofio

Yn dilyn y seremoni yn Neuadd y Sir, parhaodd y coffáu wrth Gofeb Ryfel Rhuthun, lle cynhaliwyd seremoni gyda nifer yn mynychu. Yn ystod y seremoni, cafwyd areithiau gan arweinwyr dinesig, canwyd y Post Olaf a bu dwy funud o dawelwch, gan roi cyfle i’r rhai oedd yn bresennol dalu teyrnged i aelodau’r lluoedd arfog, o’r gorffennol a’r presennol.

Dywedodd Is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Peter Scott: “Roedd yn galonogol gweld cynifer o bobl yn dod ynghyd heddiw i dalu teyrnged. Mae Diwrnod y Cofio yn rhoi cyfle pwysig inni fyfyrio ar yr aberth a wnaed gan ddynion a merched y lluoedd arfog, a sicrhau na chaiff eu hetifeddiaeth ei hanghofio byth.”

Ychwanegodd Dirprwy Faeres Rhuthun, y Cynghorydd Anne Roberts: “Roedd yn wych gweld nifer dda yn coffáu heddiw a oedd yn deyrnged addas i’r rhai sydd wedi gwasanaethu ac aberthu. Diolch i bawb a fynychodd ac a helpodd i wneud y digwyddiad yn achlysur mor urddasol ac ystyrlon.”

Cofeb Ryfel Rhuthun

Wrth i gymunedau ledled y sir oedi i gofio, bu’r rhai a oedd yn bresennol yn myfyrio ar ddewrder, gwasanaeth ac aberth cenedlaethau o bersonél y lluoedd arfog a’u teuluoedd. Roedd y seremonïau yn rhan o raglen flynyddol Sir Ddinbych i nodi Diwrnod y Cofio, gan sicrhau bod eu cyfraniad yn parhau i gael ei anrhydeddu a’i gofio.

 

Comments