Tachwedd 2026

03/11/2026

Planhigfa Goed yn agor ei drysau ar gyfer Wythnos Genedlaethol y Coed

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod sut mae coed yn cael eu tyfu o hadau yn ystod taith dywys o amgylch y blanhigfa goed ar 26 Tachwedd, o 11am tan 1pm, i ddathlu Wythnos Genedlaethol y Coed.

Cynhelir y daith ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych, Fferm Greengates, Cwttir Lane, Llanelwy, LL17 0LF, yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed, a gynhelir o 21 i 29 Tachwedd.

Bydd ymwelwyr yn dysgu am wahanol ofynion coed fel derwen a draenen wen, a sut y defnyddir technegau fel hidlo ac arnofio i brosesu hadau.

Mae’r blanhigfa gymunedol yn arbenigo mewn hadau coed a geir yn lleol a thyfu coed hyd at aeddfedrwydd.  Bydd y daith dywys yn cynnig golwg tu ôl i’r llen ar y casgliad o hadau a’r technegau lluosogi.

Yn cael ei gynnal gan dîm Bioamrywiaeth ac Ecoleg y Cyngor, mae’r blanhigfa’n tyfu 35,000 o goed bob blwyddyn ac mae capasiti ar gyfer 80,000.  Mae eu gwaith yn cefnogi’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r blanhigfa’n tyfu rhywogaethau prin ac mewn perygl gan gynnwys poplysen ddu, aethnen, y gerddinen wyllt a phisgwydden deilen fach.  Mae mwyafrif y coed yn cael eu plannu yn y warchodfa natur gyfagos, sydd hefyd yn cynnwys tir caeedig i afancod, gydag afancod yn cyrraedd yn fuan.

Bydd y daith yn dangos sut mae’r tîm a’r gwirfoddolwyr yn casglu a lluosogi coed o hadau, gan greu cyfleoedd i fioamrywiaeth sefydlu a ffynnu.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Byddwn yn annog pobl i ddod yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed a darganfod y gwaith sy’n cael ei gyflawni yn ein planhigfa goed.  Mae’r daith yn gyfle i weld sut mae hadau a gesglir yn lleol yn cael eu tyfu yn goed a dysgu mwy am eu gofal.

“Mae gwaith y blanhigfa’n bwysig i gefnogi bioamrywiaeth.  Trwy dyfu coed a geir yn lleol, gan gynnwys rhywogaethau prin, mae’r tîm a’r gwirfoddolwyr yn helpu i greu cyfleoedd i natur ffynnu. 

Er mwyn mynychu’r daith defnyddiwch y ddolen  

Comments