llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Digwyddiad i ddathlu ail-agor Carchar Rhuthun

Cynhaliwyd digwyddiad ail-agor swyddogol Carchar Rhuthun yn ddiweddar yn dilyn dwy flynedd o waith adfer ar ôl y llifogydd.

Trefnwyd y digwyddiad i ddathlu’r holl waith adfer sydd wedi cael ei wneud yn y safle hanesyddol, gan gynnwys cell newydd, yn arbennig ar gyfer rhannu stori’r carcharorion a gafodd eu hanfon i Awstralia o Garchar Rhuthun. 

Cafodd ymwelwyr eu cyfarch gan staff oedd wedi gwisgo i fyny mewn gwisgoedd traddodiadol a’u croesawu gyda chacennau bach a phaneidiau cyn i gynghorwyr lleol gyflwyno areithiau i’r ymwelwyr. 

Yn dilyn yr areithiau cynigwyd taith i’r ymwelwyr o amgylch y carchar ar ei newydd wedd. Darparwyd canllawiau sain wrth i’r daith ddechrau ar yr islawr a pharhau i fyny’r grisiau i’r prif floc o gelloedd lle'r oedd Coch Bach y Bala yn byw cyn iddo ddianc allan o’r carchar drwy gloddio twll yn y wal gyda llwy ym 1913. 

Daeth y daith i ben yn yr iard sydd wedi cael ei ddatblygu’n ddiweddar i ymwelwyr gael gwell golwg o’r tiroedd hanesyddol, a thu allan i gell Williams Hughes sef yr unig ŵr erioed i gael ei grogi yng Ngharchar Rhuthun ym 1903. 

Mae’r Carchar yn agored drwy’r tymor, hyd at 30 Medi. Mae’n agor yn ddyddiol (ar wahân i ddydd Mawrth) o 10:30am tan 5pm, gyda’r ymweliad olaf am 4pm.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n wych gweld pawb yn ymweld a Carchar Rhuthun wedi dwy flynedd o waith adfer. Mae’n rhan bwysig o hanes cyfoethog y dref, ac er gwaetha’r tywydd roedd hi’n braf gweld bobl leol yn mwynhau’r ychwanegiadau newydd sydd wir yn werth ymweld â nhw.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...