llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Y Cyngor yn cadarnhau rhestr fer y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae'r Cyngor wedi penderfynu ei restr fer o geisiadau ar gyfer cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Mae UKSPF yn rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU sy’n darparu arian i’w fuddsoddi’n lleol ledled y DU tan mis Mawrth 2025. Mae cyllid o £25.6 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau ar draws Sir Ddinbych.

Cyflwynwyd ceisiadau i’w hystyried ar gyfer cam nesaf y broses i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 25ain Ebrill 2023, ac mae 29 prosiect wedi llwyddo i gyrraedd y cam nesaf (cymysgedd o brosiectau Sir Ddinbych yn unig a phrosiectau rhanbarthol).

Mae’r prosiectau sydd wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych sydd wedi pasio cam 1 o’r broses gwerthuso wedi’u gwahodd i symud ymlaen i gyflwyno cais cam 2. Ni all prosiectau aml awdurdod lleol sydd ar y rhestr fer symud ymlaen i gam 2 nes gwneir penderfyniad ar draws yr holl awdurdodau lleol priodol dros Ogledd Cymru.

Derbyniodd y Cyngor 110 o geisiadau gan brosiectau cymunedol, busnes a menter dros y sir, yn ceisio am swm oedd bron i bedair gwaith yn fwy na’r hyn sydd wedi’i ddyrannu i Sir Ddinbych gan yr UKSPF. Yn anffodus, golyga hyn na ellir cefnogi’r mwyafrif o brosiectau, a fydd yn newyddion siomedig i nifer o’r ymgeiswyr. Fodd bynnag, bydd cefnogaeth ar gael gan y Cyngor i helpu ymgeiswyr aflwyddiannus i archwilio ffynonellau ariannu eraill ar gyfer eu prosiectau lle bo’n bosibl.

Dywedodd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wrth ein boddau i gymryd 29 cais ymlaen am gyllid ar y cyfnod hwn. Derbyniwyd nifer uchel o geisiadau gyda gwerth cyfunol yn sylweddol uwch na'r dyraniad cyllideb ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych. Nid yw hyn yn golygu bod y prosiectau aflwyddiannus o ansawdd gwael neu’n ddi-werth, yn fwy ein bod ni wedi ein cyfyngu gan y cyllid sydd ar gael, ein targedau cynllun buddsoddi a chyfyngiadau amserlen rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Os bydd angen cymorth pellach ar ymgeiswyr aflwyddiannus i ddod o hyd i gyllid arall ar gyfer eu prosiectau, mae ein tîm wrth law i roi cymorth iddynt.”

Am wybodaeth bellach am broses ymgeisio y Cyngor ar gyfer cyllid Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU, ewch i’n gwefan.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...