13/08/2025
Adeiladau’r Frenhines - dros 120 mlynedd o hanes eiconig yn y Rhyl
Gyda dyfodiad y rheilffordd i’r Rhyl ganol yr 1800au, golyga amser teithio haws a chyflymach i ymwelwyr dydd a thwristiaid, a ddaeth yn bennaf o ardaloedd diwydiannol y gorllewin-ganolbarth a gogledd-orllewin i ymweld â phier haearn modern newydd y Rhyl, Gerddi’r Gaeaf a myrdd o westai a thai llety oedd i’w gweld ar hyd y blaen.

Ynghyd â’r traeth tywodlyd eang enwog y gwyddom amdano heddiw, sy’n cynnig llecyn hardd i fwynhau’r machlud haul a llwybr cerdded ymlaciol ar lan y môr, daeth y Rhyl yn gyrchfan glan y môr yr oedd rhaid ymweld â hi, ac yn em ar arfordir gogledd Cymru.
Adeiladwyd fel ‘Palas y Frenhines’ yn 1902, roedd Adeilad y Frenhines gwreiddiol yn rhyfeddod brics coch oedd yn llawn ystafelloedd dawnsio a theatrau, cyn i dân dinistriol dim ond pum mlynedd yn ddiweddarach yn 1907 olygu y bu’n rhaid ailadeiladu, a arweiniodd at enw newydd, sef ‘Theatr ac Ystafell Ddawnsio y Frenhines’. Daeth yn ganolbwynt yng nghanol y Rhyl gydag arlwy unigryw megis sglefr-rolio a pherfformiadau cerddorfaol min nos.
Daeth y theatr a’r ystafell ddawnsio yn ffynhonnell o ryddhad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe gynhaliodd y lleoliad Gymdeithas Gwasanaeth Milwrol Adloniant (ENSA), a oedd yn gwmni wedi'i gefnogi gan y Llywodraeth oedd yn helpu i roi hwb i forâl yn ystod un o gyfnodau anoddaf Prydain.

Croesawodd y lleoliad lawer o enwau enwog drwy’r fynedfa enwog yn cynnwys y ddeuawd gomedi enwog Laurel a Hardy ar eu taith olaf, Marty Wilde & The Wildcats a Sir Cliff Richard & The Shadows.
Yn ystod y 1960’s a’r 70au, bu newid yn y modd yr oedd y gymuned yn defnyddio’r lleoliad. Ar ôl i’r theatr gau, cafodd yr ardal ei ailddatblygu’n gyflym mewn i’r farchnad enwog, a ddaeth yn farchnad dan do bywiog a phrysur a oedd yn gwerthu swfenîrs i dwristiaid, a daeth yn boblogaidd bob tywydd gyda thrigolion lleol, oedd yn gallu cyfarfod yno, waeth beth oedd y tywydd.
Er bod tueddiadau ar y stryd fawr yn newid, llwyddodd y lleoliad i gadw ymdeimlad cryf o gymuned, ac roedd lleoliad y farchnad yn darparu cysylltiad cryf o’r stryd fawr i’r promenâd. Llwyddodd y stondinau i oresgyn, ond dros amser, daeth yr adeilad yn anniogel ac yn anaddas at y diben. Roedd angen diweddariad ac ailwampiad.
Yn 2018, rhoddwyd cynlluniau ar waith i greu delwedd newydd a modern ar gyfer Adeilad y Frenhines.
Caffaelwyd yr hen adeiladau, ac yna cafodd y mwyafrif eu dymchwel oherwydd pryderon diogelwch, er mwyn gwneud lle ar gyfer yr adeilad rydym bellach yn ei alw’n Marchnad y Frenhines. Cafodd y fynedfa ar Stryd Sussex ei gadw a’i gynnwys mewn i’r dyluniad newydd.
Mae’r gofod newydd ar ei newydd wedd, a agorodd fis diwethaf yn cynnwys gwerthwyr bwyd annibynnol, bar dwy ochr, gofod lledlawr gyda gemau ac adloniant, a llwyfan modern, sy’n cynnal nosweithiau adloniant yn aml. Mae Marchnad y Frenhines yn prysur droi yn ganolbwynt i’r gymuned yng nghanol y Rhyl, ac mae’n darparu bwyd blasus ac adloniant cyffrous i bobl y Rhyl a thu hwnt, gan roi bywyd newydd mewn i’r gofod eiconig yma unwaith eto.
Mae dros 120 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r lleoliad agor fel ‘Palas y Frenhines’ yn ôl yn 1902, ond mae’r gwerthoedd craidd a wnaeth yr adeilad enwog mor eiconig yn dal i fodoli hyd heddiw, mae’r ysbryd cymunedol i’w deimlo ar du allan a thu mewn i Farchnad y Frenhines a’r gofod digwyddiadau.
Ers i’r drysau agor, mae miloedd wedi heidio i ymweld, i ymgynnull, i sgwrsio, i ganu, i ddawnsio a chyfarfod yn lleoliad Parêd y Gorllewin sydd yn prysur sicrhau ei le fel lleoliad y mae’n rhaid ymweld ag o ar arfordir gogledd Cymru.