Awst 2025

11/08/2025

Lleihad allyriadau carbon diolch i fflyd gwyrddach

Mae allyriadau carbon maint jymbo-jet heb eu gwastraffu, diolch i fflyd wyrddach un gwasanaeth.

Ar hyn o bryd, mae tua 15 y cant o Fflyd Gwastraff y Cyngor wedi’u pweru gan drydan a’u defnyddio ar lwybrau addas ar gyfer casglu gwastraff.

Mae’r fflyd hon wedi gweld newidiadau ers 2022 er mwyn helpu i leihau ei hôl-troed carbon, ac ôl-troed carbon y Cyngor, wrth gasglu gwastraff ar draws y sir.

Ar ddechrau 2023, cyflwynwyd dwy lori casglu gwastraff e-Collect Dennis Eagle ar lwybrau yng ngogledd y sir. Mae’r cerbydau yn gallu teithio hyd at 100 milltir a chodi 1000 o finiau gydag un gwefriad.

Mae’r lorïau hyn yn darparu arbedion cost hirdymor trwy gostau rhedeg is o’u cymharu â cherbydau tanwydd ffosil, a chostau cynnal a chadw is oherwydd bod llai o rannau i’w cynnal ar y lorïau.

O fewn y deunaw mis diwethaf, daeth pum lori ailgylchu Electra e-Cargo yn rhan o’r fflyd. Mae’r cerbydau yn gallu teithio hyd at 155 milltir, sydd unwaith eto’n cynnig milltiroedd gwyrddach am gost is, a chostau cynnal a chadw is. Gellir eu gweld allan ar y ffordd hefyd, oherwydd mae enw ar flaen pob un, gallwch weld Christal Clean ar y ffyrdd.

Ar hyn o bryd, mae defnyddio’r cerbydau wedi arwain at arbedion carbon o 409,493kg yn erbyn y cerbydau disel cyfatebol. I roi hyn mewn persbectif, mae hyn yr un fath â Jumbo-jet 747 neu Airbus A380 wedi’u llwytho, tua 67 o eliffantod Affricanaidd gwrywaidd yn eu llawn dwf, neu tua phedwar Flying Scotsman.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym wedi edrych ar ein fflyd yn gyffredinol i weld lle gallwn ni leihau allyriadau trwy gyflwyno cerbydau trydan i ddisodli stoc sydd ar ddiwedd eu hoes a thrwy gefnogaeth ariannol.

“Mae’r gwasanaeth gwastraff yn bwysig, ac mae’r lorïau trydan hyn yn rhan annatod o helpu i leihau’r allyriadau carbon mae’r fflyd yn eu creu bob dydd.

“Mae ein hadran fflyd yn monitro ffyrdd addas o ddarparu gwasanaethau er mwyn lleihau ôl-troed carbon ein cerbydau yn rheolaidd, ac mae defnyddio cerbydau trydan yn enghraifft dda o hyn, a bydd yn helpu i leihau costau hirdymor hefyd, o’u cymharu â rhedeg cerbydau tanwydd ffosil.”

 

 

Comments