Awst 2025

15/08/2025

Gwaith ar brosiect hen Ysbyty Gogledd Cymru i ddechrau yn fuan

(Cyn Ysbyty Gogledd Cymru)

Mae gwaith ar cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych wedi cyrraedd carreg filltir allweddol, ac mae’r contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer y gweithgaredd ecolegol cychwynnol.

Mae Cyngor Sir Ddinbych, pwy sy'n berchen ar y safle, wedi penodi Jones Bros Civil Engineering UK ar gyfer cam cynnar y gwaith diogelu ecoleg, gan gynnwys adeiladu dwy ysgubor ystlumod.

Mae'n gam hanfodol yn amserlen y prosiect, a fydd yn caniatáu ar gyfer dymchwel adeiladau presennol, cam a fydd yn gwella iechyd a diogelwch ar y safle ac yn cefnogi cam nesaf y datblygiad.

Nod cynllun cyn Ysbyty Gogledd Cymru yw cyflawni rhaglen o welliannau adfywio mewn tri cham gwahanol dros gyfnod o 12 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Ddinbych a chefnogaeth gan bartneriaid allweddol gan gynnwys Uchelgais Gogledd Cymru.

Bydd y cynllun yn ailddatblygu'r safle diffaith 53 erw ac yn cynnwys adfer yr adeilad rhestredig Gradd 2*, cartrefi newydd, unedau masnachol, yn ogystal â mannau cymunedol gwyrdd.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael ychydig yn llai na £20 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer prosiectau y cytunwyd arnynt yn etholaeth Dyffryn Clwyd trwy ei gais 'Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol'. 

Dyrannwyd £3 miliwn o'r cyllid hwn yn y cais a gymeradwywyd tuag at gam un y prosiect drwy Raglen Dyffryn Clwyd.

Mae hyn yn ychwanegol at y £6.94 miliwn ar gyfer y prosiect a gafwyd drwy Uchelgais Gogledd Cymru fel rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, sy’n cael ei hariannu gan lywodraethau’r DU a Chymru.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Rhaglen Tir ac Eiddo y Cynllun Twf:

“Rwy’n falch iawn bod y cam cyntaf hwn mor agos at ddechrau.  

“Mae hon yn garreg filltir bwysig arall yn natblygiad prosiect cyn Ysbyty Gogledd Cymru.

“Mae’r cynlluniau hyn yn bwriadu adfywio tirnod hanesyddol amlwg yn Sir Ddinbych yn ogystal â chefnogi twf yr economi leol.”

Dywedodd Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau Uchelgais Gogledd Cymru:

“Rydym ni’n croesawu’r penderfyniad gan Gyngor Sir Ddinbych i gymeradwyo’r cyllid o £3 miliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwaith Cam 1 yn cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

“Mae hon yn garreg filltir bwysig i’r prosiect ac yn hanfodol o ran hwyluso datblygiad y safle a chyflawni’r prosiect cyfan. 

“Bydd y buddsoddiad mewn datblygu a darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd ar y safle yn gatalydd ar gyfer adfywio’r dref a thwf economaidd ehangach ar draws y sir a’r rhanbarth.”

Dywedodd llefarydd Jones Bros:

“Mae adeiladau cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn adfeiliedig, yn cynnwys asbestos, ac yn fregus yn strwythurol, ac mae hyn yn bryder iechyd a diogelwch.

“Mae Jones Bros wedi diogelu’r safle ac mae ganddyn nhw ddiogelwch ar y safle i atal pobl rhag mynd i mewn iddo.

“Iechyd a diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, a bydd y garreg filltir hon i adeiladu ysguboriau ystlumod yn chwarae rhan hanfodol i gynnal arolygon pellach, cysylltu â’r cyngor i alluogi opsiynau adfer a dymchwel y safle.”

Comments