13/08/2025
Prom y Rhyl wedi'i ail-ddychmygu a'i hailwampio i ailagor
Ar ôl cau ar gyfer adnewyddu fel rhan o'r gwaith amddiffyn môr hanfodol y Cynllun Amddiffyn Arfordirol Canol y Rhyl, mae'r prom yn y Rhyl am ailagor i'r cyhoedd ar Awst 15fed.
Y Prom
Mae'r prom sydd wedi'i ailwampio wedi'i godi i amddiffyn yr arfordir ac mae ganddo arwyneb newydd. Mae rampiau mynediad newydd hefyd wedi'u hychwanegu at y dyluniad newydd i helpu gyda hygyrchedd.
Mae gwaith diweddar a wnaed ar y prom wedi gweld grisiau concrit wedi'u rhag-gastio wedi'u gosod, lefel y ddaear wedi'i chodi i ddarparu amddiffyniad rhag llifogydd. Hefyd mae draeniad, arwyneb a phalmant wedi'u gosod.
Ynghyd â'r gwaith hwn, mae goleuadau stryd wedi'u gosod ar gyfer lle mwy diogel a mwy disglair ac mae dodrefn stryd newydd, gatiau llifogydd a chanllawiau wedi'u hychwanegu.
Mi fydd y prom hefyd yn cael ei ddatblygu i gynnwys ardal ymarfer corff awyr agored i oedolion ar lan y môr, paneli chwarae gemau, paneli chwarae cerddorol, paneli cyfathrebu, paneli chwarae dychmygus gyda thema'r cefnfor, gêm ryngweithiol bywyd morol 'Dod o hyd i'r creaduriaid morol brodorol' yn ogystal â delweddau ffitrwydd ar y llawr ac ardal chwarae ryngweithiol. Mae’r gwaith gosod hyn dal ar y gweill.
Dan arweiniad yr artist Ffion Pritchard, a gafodd gymorth nifer o grwpiau cymunedol, bydd cyfres o furluniau newydd bywiog wedi'u hysbrydoli gan y gymuned hefyd yn cael eu gosod, a fydd yn ymestyn dros yr amddiffynfeydd arfordirol newydd.
Yn ogystal ag agor y prom newydd, mae ardal chwarae newydd Parc Drifft am agor yn ei lleoliad gwreiddiol, gyda dyluniad newydd a ddewiswyd gan y gymuned ym mis Medi.
Parc Drifft
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd:
“Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd y prom yn y Rhyl yn ailagor i'r cyhoedd ar Awst 15fed. Ar ôl y gwaith codi fel rhan o'r Gwaith Amddiffyn Môr, bydd y promenâd eiconig wedi'i ailwampio a'i ail-ddychmygu ar agor unwaith eto i'r cyhoedd ei fwynhau.
Mae'r gwaith a wnaed fel rhan o'r prosiect Amddiffyn Môr wedi bod yn hanfodol ac yn angenrheidiol i amddiffyn ein harfordir, ein cartrefi a'n busnesau rhag llifogydd a digwyddiadau tywydd garw sydd ar gynnydd. Mae'r prom wedi'i godi'n sylweddol, ac mae mesurau amddiffyn rhag llifogydd newydd wedi'u gweithredu. Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r prosiect bron â'i gwblhau.
Mae'r gwaith ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Canol y Rhyl yn gam pwysig o ran amddiffyn ein harfordir, ynghyd â Chynllun Amddiffyn Arfordirol Canol Prestatyn a gwblhawyd ac a agorwyd yn swyddogol yn ddiweddar.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r cynlluniau adfywio ehangach ar gyfer y Rhyl.
Gyda Marchnad y Frenhines sydd newydd ei hailagor yn gweld niferoedd gwych o ymwelwyr, a Pharc Drifft sydd ar fin agor, ynghyd â Sinema newydd y Strand, mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i'r Rhyl.”