12/08/2025
Gwelliannau pellach i Bromenâd y Rhyl

Fe fydd gwaith yn cael ei wneud i wella ardaloedd ar hyd Promenâd y Rhyl.
Wedi’i ariannu gan brosiect Amddiffynfeydd Arfordirol a Chyllid Trosiannol Y Gronfa Ffyniant Gyffredin, fe fydd y gwaith yn cael ei gydlynu a’i wneud gan adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych.
Mae’n dilyn gwaith diweddar a wnaed gan y tîm drwy gyllid Ffyniant Gyffredin i wella’r ardal, yn cynnwys ailwampio’r pedwar pwll ar hyd y promenâd.
Yn dilyn arolygon safle a gynhaliwyd yn ddiweddar, fe fydd y rownd nesaf o waith yn mynd i’r afael â phroblemau a ganfuwyd.
Fe fydd prosiect Amddiffynfeydd yr Arfordir yn ariannu'r gwaith canlynol:
- Ailosod canllawiau a phaneli sydd wedi rhydu. Fe fydd y rhain yn cael eu paentio i gyd-fynd â’r canllawiau a phaneli sydd eisoes yno.
- Trin y strwythur gwylanod sydd wedi rhydu, a’i weldio a’i uno gyda deunydd gwrth-rydu, ei lanhau a’i ail-baentio i roi amddiffyniad ychwanegol.
- Paentio’r colofnau a chanllawiau drws nesaf i’r Arena Digwyddiadau/Sealife Centre, fe fydd y goleuadau stryd a chanllawiau drws nesaf i’r ardal yma’n cael eu paentio hefyd.
- Fe fydd hadau’n cael eu hau a bydd tirlunio meddal yn cael ei osod ar hyd wal yr amddiffynfeydd morol.
Fe fydd cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei ddyrannu er mwyn cwblhau’r gwaith canlynol, sydd bennaf o fewn yr Arena Digwyddiadau.
- Fe fydd y lloches seddi’n cael ei ddiweddaru oherwydd problemau rhwd.
- Cael gwared ar byst y seddi a chanopïau to. Mae’r strwythurau to presennol yn anniogel, felly mae’n rhaid eu tynnu. Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol wedi bod yn yr ardaloedd yma hefyd, ac i fynd i’r afael â hyn, fe fydd y pyst cefnogi a chanopïau'n cael eu tynnu i adael y seddi’n unig.
- Paentio paneli dur addurniadol i gyd-fynd â’r gwaith paent presennol, sydd wedi cael ei wneud yn ddiweddar.
- Trwsio cerrig copa sydd wedi'u difrodi mewn dau le, a bydd angen eu hailosod/amnewid.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n bleser gennym barhau â’r gwelliannau ar hyd Promenâd y Rhyl drwy’r cyllid y bu modd i ni gael gafael arno. Fe fydd y gwaith yma’n cyd-fynd â’r ardaloedd sydd eisoes wedi cael eu gwella trwy gyfarwyddyd Gwasanaethau Stryd i wella’r rhan bwysig yma o’r Rhyl ymhellach."
Rhagwelir y bydd y rhaglen yma o waith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl cyn cyfnod y gaeaf.