21/08/2025
Carchar Rhuthun yn Derbyn Gwobr Traveller’s Choice Tripadvisor

Mae Carchar Rhuthun, carchar Fictoraidd hanesyddol yng nghanol Sir Ddinbych, sydd erbyn hyn yn amgueddfa, yn falch o gyhoeddi ei fod wedi ennill gwobr fawreddog Tripadvisor Traveller’s Choice Award unwaith eto ar gyfer 2025.
Mae hyn yn nodi’r ail flwyddyn yn olynol y mae Carchar Rhuthun wedi ennill y wobr yma, gan ei osod ymysg y prif atyniadau yng ngogledd Cymru, ac mae’n cydnabod ei ragoriaeth barhaus yn darparu profiadau rhagorol i ymwelwyr.
Mae’r Traveller’s Choice Award gan Tripadvisor yn cael ei ddyfarnu’n flynyddol i atyniadau, darparwyr llety, a bwytai sy’n cael adolygiadau eithriadol o dda yn gyson ar blatfform Tripadvisor gan ymwelwyr.
Gall ymwelwyr â Charchar Rhuthun ymgolli eu hunain yn realiti bywyd mewn carchar Fictoraidd o dan y ‘system dawel’ enwog. Gyda’i isloriau atmosfferig, llawr uchaf sydd yn arddull Pentonville, a straeon am garcharorion enwog megis Coch Bach y Bala, mae’r Carchar yn cynnig cymysgedd o hanes a phensaernïaeth. Mae arddangosfeydd rhyngweithiol, tywysydd sain cynhwysfawr, a gweithgareddau sy’n addas i’r teulu cyfan, yn sicrhau bod y carchar yn gadael argraff ar bob ymwelydd.
Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu:
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill Gwobr Traveller's Choice am yr ail flwyddyn. Mae wir yn brawf o ymroddiad ein tîm, sy’n gweithio’n galed gydol y flwyddyn i ddod â straeon y Carchar yn fyw mewn ffyrdd creadigol a difyr.
“Rydym ni mor ddiolchgar i’n hymwelwyr am eu geiriau caredig a’u cefnogaeth barhaus. Mae gwybod bod pobl yn gadael wedi’u hysbrydoli i adael adolygiadau mor gadarnhaol yn golygu popeth i ni.”
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae Carchar Rhuthun yn atyniad hynod boblogaidd yr ydym yn ffodus iawn i’w gael ar ein carreg drws yma yn Sir Ddinbych.
“Mae’r gydnabyddiaeth yma eto yn taflu goleuni ar ymrwymiad diwyro Carchar Rhuthun i gadw ei dreftadaeth unigryw tra’n cynnig profiadau deniadol, addysgiadol a chofiadwy i bobl o bob oed”.
I gael mwy o wybodaeth am Garchar Rhuthun ac i gynllunio eich ymweliad, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth neu e-bostiwch dîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych treftadaeth@sirddinbych.gov.uk