26/08/2025
Prawf Rhybudd Argyfwng Cenedlaethol ar 7 Medi
Bydd Llywodraeth y DU yn anfon Rhybudd Argyfwng prawf i ffonau symudol ledled y DU tua 3pm ddydd Sul, 7 Medi 2025.
Defnyddir y system Rhybuddion Argyfwng i rybuddio os oes perygl i fywyd gerllaw, gan gynnwys tywydd eithafol. Mae'n caniatáu anfon gwybodaeth a chyngor hanfodol at bobl yn gyflym mewn argyfwng.
Yn ystod y prawf, bydd ffonau symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn siren uchel am tua deg eiliad, hyd yn oed os yw’r sain i ffwrdd. Bydd neges hefyd yn ymddangos ar sgrin ffonau, gan ei gwneud hi'n glir mai prawf yn unig yw'r rhybudd.
Hwn fydd yr ail brawf o’i fath ac mae'n dilyn ymrwymiad y llywodraeth i brofi'r system yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn gweithio ac er mwyn i’r cyhoedd ymgyfarwyddo â'r rhybuddion. Mae hyn yn unol ag arfer safonol mewn gwledydd eraill.
Cyn y prawf cenedlaethol, mae'r llywodraeth wedi bod yn cynnal ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus i hysbysu pobl bod y prawf yn digwydd, gan gynnwys targedu cyfathrebu at grwpiau agored i niwed, fel dioddefwyr cam-drin domestig. Bydd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys deunyddiau yn Iaith Arwyddion Prydain.
Optio allan
Gallwch ddarganfod sut i optio allan o rybuddion brys drwy ymweld â'r wefan ganlynol a fydd yn darparu cyfarwyddiadau ar gyfer gwahanol ddyfeisiau - https://www.gov.uk/alerts/opting-out.cy