Awst 2025

15/08/2025

Cynllun grant i gefnogi gwelliannau i eiddo masnachol yn agor

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn agor ei Grant Datblygu Eiddo Masnachol unwaith eto.

Mae’r grant ar agor i eiddo masnachol sydd wedi’u lleoli yng nghanol wyth prif dref a dinas ar draws y Sir ac mae’n rhaid iddynt fod o fewn ffiniau canol y ddinas neu dref yn un o’r canlynol i fod yn gymwys:  Corwen, Dinbych, Llangollen, Prestatyn, Rhuddlan, y Rhyl, Rhuthun, Llanelwy.

Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU er mwyn cynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol canol dinas a threfi Sir Ddinbych.

Gall y cynllun grant, sy’n ffurfio rhan o Brosiect Cynllun Gwella Eiddo Masnachol yn ehangach, ddarparu grant o £5,000 i £50,000 i brosiectau unigol er mwyn datblygu a diweddaru eiddo masnachol.

Mae cyllid ar gyfer hyd at 70% o brosiect ar gael i wella tu allan eiddo masnachol drwy’r cynllun hwn. Yr uchafswm y gellir gwneud cais amdano yw £50,000. 

Mae disgwyl i ymgeiswyr allu ariannu gweddill cost y prosiect eu hunain.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae Grant Datblygu Eiddo Masnachol Sir Ddinbych yn fenter wych sydd yn targedu eiddo gwag, segur neu flêr mewn canol trefi ar draws Sir Ddinbych er mwyn gwella amwynderau gweledol, hybu buddsoddiad, creu mwy o waith a chyfleoedd a gwneud canol trefi yn lleoedd mwy bywiog.

 “Bydd y cynllun newydd yma’n ased i unrhyw eiddo busnes neu fasnachol sydd wedi’u lleoli mewn canol trefi ar draws y Sir sydd eisiau gwella tu allan eu hadeiladau i helpu i wella eu heiddo a denu rhagor o fusnes. Nid yn unig y bydd o fudd i fusnesau sy’n derbyn y cyllid, ond bydd hefyd yn arwain at ganol trefi sy’n edrych yn well ar draws Sir Ddinbych a fydd yn gwella teimlad a chanfyddiad o’r ardaloedd, gan annog pobl leol i gymryd balchder yng nghanol eu tref.”

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun a sut i ymgeisio am grant, ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cyllid-a-grantiau/grant-datblygu-eiddo-masnachol-sir-ddinbych.aspx

Comments