Awst 2025

04/08/2025

Gwaith cynnal a chadw tymhorol yn dechrau mewn dolydd

Mae gwaith torri a chasglu gwair wedi dechrau mewn dolydd blodau gwyllt ar draws y sir y mis hwn.

Mae’r tîm Bioamrywiaeth a swyddogion Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda’i gilydd i drefnu i dorri gwair ar safleoedd er mwyn cynnal a chefnogi’r dolydd. 

Sefydlwyd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn 2019, a luniwyd i ddod â chynefinoedd blodau gwyllt brodorol yn ôl i helpu i ddiogelu natur leol drwy greu ardaloedd gwyrdd a threfol cysylltiedig, yn ogystal â darparu gofod ar gyfer lles cymunedol a hamdden ar draws y sir.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfrannu’n ariannol drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Cofnodwyd bron i 300 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ar y safleoedd hyn a chyfanswm o 5,269 o flodau unigol y llynedd, llawer iawn mwy nag sy’n tyfu mewn caeau lle torrir y gwair yn gyson.

Gyda’r tymor blodau yn dod i ben, yn arbennig yn sgil y tywydd sych dros y gwanwyn a’r haf eleni, bydd staff yn ymweld â dolydd gyda chyfarpar torri arbenigol i wneud y gwaith torri a chasglu tymhorol.  

Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ein bod yn torri rhai o’n dolydd blodau gwyllt yn gynt na’r arfer.  Mae hyn yn rhan o gynllun cynnal a chadw’r flwyddyn hon lle mae rhai safleoedd, sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol i sefydlu, yn cael eu torri a’u casglu unwaith y bydd y blodau gwyllt wedi’u hadu.  Mae ein blodau gwyllt brodorol yn ffynnu mewn priddoedd gwael, felly mae’r holl doriadau yn cael eu clirio er mwyn lleihau’r maetholion yn y pridd a helpu’r blodau gwyllt brodorol i dyfu’n gryfach a hadu y tymor nesaf.

Bydd y gwaith torri a chasglu arferol yn cael ei gwblhau ar y safleoedd sy’n weddill drwy gydol mis Awst a Medi, ac mae rhywfaint o waith gwella pellach ar y gweill ar gyfer rhai safleoedd.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn dechrau’r gwaith torri a chasglu rŵan gan fod nifer o flodau eisoes wedi’u hadu a bydd hyn yn ein helpu i gynnal a gwella’r cynefinoedd ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Mae ein Tîm Bioamrywiaeth eisoes wedi dechrau gwaith i gasglu hadau o’r dolydd blodau er mwyn cynhyrchu eginblanhigion yn ein planhigfa goed i’w plannu yn ôl yn y dolydd. 

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r prosiect eleni, sy’n rhoi hwb mawr i bryfed peillio a bywyd gwyllt eraill.  Mae’r gwaith yma’n bwysig i gryfhau’r cynefin hwn er mwyn cefnogi natur yn ogystal â’n lles, a hynny ar ôl colli bron i 97% o’n dolydd yn ystod y can mlynedd ddiwethaf.

Wrth i ni weld mwy o flodau gwyllt yn tyfu byddan nhw’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau fwynhau’r ardal ac er mwyn cefnogi pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.

Ychwanegodd: “Mae dolydd blodau gwyllt y sir yn fuddiol i les pobl leol a bywyd gwyllt ac yn bwysicach fyth, i genedlaethau’r dyfodol sef ein pobl ifanc yn Sir Ddinbych.”

 

 

Comments