15/08/2025
Tipio anghyfreithlon yn Llanferres
Bu digwyddiad sylweddol o dipio anghyfreithlon yn oriau mân fore Iau mewn cilfach yn Llanferres oddi ar yr A494.
Credir bod lori fawr wedi tipio tua 20 tunnell o wastraff rhwng 10pm nos Fercher, 13 Awst a 6am nos Iau, 14 Awst. Oherwydd y cyfaint enfawr o wastraff, mae Cyngor Sir Dinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad trylwyr i'r mater hwn.
Dywedodd Tony Ward, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Amgylchedd yn y Cyngor: “Hoffem sicrhau trigolion bod staff o'r Cyngor wedi trefnu i glirio’r gwastraff ddydd Llun, 18 Awst.
“Rydym am atgoffa pawb yn y sir fod ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n gywir. Gall tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff anghyfreithlon gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd a gall hefyd arwain at ddirwyon sylweddol i'r rhai sy'n gyfrifol.
Os oes gan drigolion unrhyw luniau teledu cylch cyfyng neu gamera dash o’ch car neu unrhyw wybodaeth arall, gallwch ei gofnodi drwy un o’r ffyrdd canlynol:
Ffoniwch Cyngor Sir Ddinbych ar 01824 706 000 (8.30am – 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Adroddwch arlein ar dudalen ‘Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon’ ar y wefan.
Llinell adrodd 24 awr Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000