Awst 2025

06/08/2025

Cefnogaeth am ddim i fusnesau sy’n cael problemau gyda’r rhyngrwyd

Mewn partneriaeth â Chadwyn Clwyd, mae gwasanaeth Swyddog Digidol Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi busnesau yn Sir Ddinbych sy’n cael trafferthion efo’r rhyngrwyd.

Mae cysylltiad da yn hanfodol i fusnesau, ond mae llawer o fusnesau yn wynebu heriau wrth drio cael cysylltiad dibynadwy a chyflym. Gyda sawl cynllun llywodraeth ar gael ac Openreach yn dal i ehangu eu cysylltiad ffibr y rhanbarth, gall fod yn anodd i berchnogion busnes ddal i fyny efo’r opsiynau sydd ar gael.

I helpu, mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol rhad ac am ddim, lle mae Swyddog Digidol penodol yn gallu darparu cyngor perthnasol, ymchwilio i faterion ar eich rhan, holi Openreach a darparu adroddiad manwl ar eich cysylltiad a’r atebion sydd ar gael.

Dyma oedd gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, i’w ddweud:

“Mae cysylltiad digidol yn hanfodol ar gyfer twf a chynaliadwyedd busnesau. Drwy’r gwasanaeth yma rydym ni’n gwneud yn siŵr nad yw busnesau Sir Ddinbych yn cael eu gadael ar ôl a bod ganddyn nhw fynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ffynnu yn yr oes ddigidol.

“Rydym ni’n deall y pwysau sydd ar fusnesau lleol, ac mae’r gwasanaeth hwn yn un ffordd rydym ni’n helpu i oresgyn rhwystrau a chreu cyfleoedd ar gyfer twf.”

Mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac ar gael i bob busnes yn y sir yn rhad ac am ddim.

Am fwy o wybodaeth neu i gael cefnogaeth, cysylltwch â Philip Burrows, y Swyddog Digidol, ar philip.burrows@sirddinbych.gov.uk

#CronfaFfyniantGyffredin

Comments