08/08/2025
Lucy Cowley yn ennill Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Llongyfarchiadau i Lucy Cowley o Langollen ar ennill Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam 2025.
Lucy Cowley gyda'r Cynghorydd Emrys Wynne
Cafodd Lucy ei magu dafliad carreg i ffwrdd ym mhentref Is-y-coed, ar gyrion Wrecsam. Roedd hi’n un o bedwar i gyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Mae Lucy yn byw yn Llangollen ac mae’n athrawes yn Ysgol Gynradd Holt. Ymdrodd at ddysgu’r Gymraeg yn 2019 ac mae hi bellach yn ymuno gydag eraill sy’n siaradwyr Cymraeg newydd ym mar gwin Gales yn Llangollen a hynny pob pythefnos. Mae’r grwp yn cyd-drafod ac yn trefnu ymweliadau, gigiau a thripiau, a hynny dros lasied o win!
Roedd Leanne Parry o Brestatyn hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y tlws, ynghyd a Rachel Bedwin o Fangor a Hammad Hassan Rind, sy’n byw yng Nghaerdydd.
Tiwtor Cymraeg Lucy oedd Non ap Emlyn, sydd wedi disgrifio datblygiad Lucy yn y Gymraeg yn “anhygoel”. Meddai Non: “Daeth hi fewn yn 2019 yn brin ei Chymraeg. Roedd hi’n frwfrydig iawn … ac yn ymroi i bob tasg yn ardderchog, hefo llawer o hiwmor ac mae hi wedi gwella a gwella a bellach yn rhugl . Iddi hi mae’r Gymraeg yn fwy na iaith, mae’n ffordd o fyw a mae hi eisiau rhannu hwnna hefo pobl eraill."
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg: “Mae llwyddiant Lucy yn meistroli’r Gymraeg yn cadarnhau bod cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 er yn heriol, ond yn bosibl wrth i ni ennill rhagor o siaradwyr Cymraeg newydd. Wrth longyfarch Lucy a dysgwyr eraill y Gymraeg ar eu llwyddiannau, rhaid diolch i’w tiwtoriaid sydd wedi eu harwain ar eu taith iaith cyffrous."