08/04/2026
Sesiynau ‘Hyder i Deithio’ yn y Rhyl yn helpu preswylwyr i ailgysylltu â theithio ar drenau
Yn ddiweddar cynhaliodd Sir Ddinbych yn Gweithio gyfres o sesiynau ‘Hyder i Deithio’ am ddim yn y Rhyl gyda’r nod o gefnogi preswylwyr Sir Ddinbych i gael annibyniaeth unwaith eto a goresgyn rhwystrau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, cynigiodd y rhaglen gefnogaeth ymarferol, gyfeillgar i oedolion oedd yn teimlo’n bryderus, yn ansicr, neu heb arfer â theithio ar drên.
Gan ddechrau’r siwrnai o Lyfrgell y Rhyl, fe groesawodd y rhaglen dair rhan breswylwyr lleol 16+ oed oedd â hyder isel, heriau o ran lles, neu rwystrau eraill oedd yn effeithio ar eu gallu i deithio.
Yn y sesiynau, dysgodd gyfranogwyr sut mae’r rhwydwaith rheilffyrdd yn gweithio a darllen y Canllaw Cymorth a Diogelwch i Deithwyr. Fe gawsant hefyd brofiad ymarferol yn defnyddio apiau cynllunio siwrneiau a theithio ar drên go iawn gyda chefnogaeth.
Cafodd y sesiynau eu cryfhau ymhellach drwy gydweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Fe fynychodd Andrea Platt, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, y sesiwn gyntaf i rannu gwybodaeth am rôl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cadw teithwyr a’r rhwydwaith rheilffyrdd yn ddiogel. Roedd ei rôl yn ymwneud â meithrin ymddiriedaeth gyda chyfranogwyr, cynyddu eu hyder, a mynd i’r afael â phryderon cyffredin ynghylch teithio ar drên. Fe deithiodd Andrea Platt, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu gyda’r grŵp ar eu sesiwn olaf, gan gynnig arweiniad a chefnogaeth yn y fan a’r lle, gan roi cyfle gwirioneddol i’r criw deithio’n hyderus.
Meddai Lowri Jones, Hyfforddwr Lles a Gwydnwch yn Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Mae Hyder i Deithio yn ymwneud â rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a sicrwydd sydd ei angen ar breswylwyr i deimlo’n gyfforddus yn defnyddio trenau eto. Roedd hi’n wych gweld hyder y cyfranogwyr yn cynyddu o sesiwn i sesiwn.”

Andrea Platt, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Dywedodd Sian Jones, Llysgennad Rheilffyrdd Cymunedol yn Nhrafnidiaeth Cymru:
“Roedd hi’n wych cefnogi cyfranogwyr i ddefnyddio ein rhwydwaith rheilffyrdd rhwng y Rhyl a Llandudno. Mae’r sesiynau yma’n ein galluogi i gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl, gwneud teithio yn fwy hygyrch i bawb tra’n helpu teithwyr i fagu hyder ac annibyniaeth i archwilio’n rhwydwaith yn ddidrafferth.”
Meddai Andrea Platt, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:
“Mae partneriaeth weithio gref gyda Thrafnidiaeth Cymru a’r Cyngor lleol yn hollbwysig i wella diogelwch, meithrin ymddiriedaeth a darparu cefnogaeth effeithiol ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.”
Rhoddodd y cyfuniad o wybodaeth, sicrwydd a phrofiad ymarferol yr hyder i gyfranogwyr i oresgyn eu pryderon cychwynnol a dechrau teithio’n annibynnol ar gyfer gwaith, apwyntiadau, addysg a bywyd bob dydd.

Cysylltu Cymunedau â rheilffyrdd gyda Sir Ddinbych yn Gweithio
Nod prosiect Teithio gyda Hyder gyda Sir Ddinbych yn Gweithio a Thrafnidiaeth Cymru yw helpu i wella iechyd a lles personol, lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn fwy aml, a gwella ansawdd bywyd.
Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid a chymunedau i roi cefnogaeth i unigolion sy’n chwilio am waith, hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu’n bersonol.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, cyfleoedd hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n gwefan.
Caiff Sir Ddinbych yn Gweithio ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig hyfforddiant teithio i grwpiau cymunedol. Rydym yn ymweld â grwpiau lleol i siarad am y cymorth sydd ar gael yn ein gorsafoedd ac ar ein trenau, sut i brynu tocyn a threfnu cymorth i deithwyr, y cyfleusterau sydd ar gael yn y gorsafoedd ac ar drenau, a pha ostyngiadau sydd ar gael.