Ebrill 2026

20/04/2026

Rhwydwaith dolydd yn nodi rhywogaeth newydd ar safle yn Ninbych

Mae rhwydwaith Sir Ddinbych o ddolydd wedi creu preswyliwr newydd mewn dôl blodau gwyllt yn Sir Ddinbych.

Yn ddiweddar fe lansiodd y Cyngor Brosiect Dolydd Blodau Gwyllt am y seithfed tro. 

Wedi’i sefydlu yn 2019, mae’r prosiect yn cynnwys tua 70 o erwau o ddolydd blodau gwyllt cynhenid sy’n cynnal byd natur yn lleol a hybu lles ein cymunedau ledled y sir. Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Yn ddiweddar, bu Swyddogion Bioamrywiaeth yn arolygu dôl Ffordd y Graig yn Ninbych a darganfod rhywogaeth ar y safle nad yw erioed wedi’i chofnodi o’r blaen.

Daethant o hyd i fioled y cŵn, blodyn gwyllt sy’n gallu darparu ffynhonnell fwyd bwysig i löynnod byw prin a gall gynnal wyau glöynnod byw. Byddai’r Groegiaid gynt yn defnyddio’r planhigyn hwn ar gyfer meddyginiaeth llysieuol hefyd a chredwyd ei fod yn helpu i wella clefydau’r croen.

Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Roeddem yn falch o ganfod fioled y cŵn yn y safle hwn yn Ninbych gan ei fod yn dystiolaeth bod ein gwaith i greu cynefin blodau gwyllt lleol cysylltiol ar raddfa fawr i gefnogi symudiad bywyd gwyllt ar draws y sir yn gweithio.

“Rydym wedi gweithio i ddefnyddio ymyl ein ffyrdd ar hyd dolydd blodau gwyllt trefol a gwledig i greu coridorau er mwyn i natur ffynnu a symud trwyddynt ac mae dod o hyd i’r planhigyn hwn yn dangos bod y prosiect yn gwneud i hyn ddigwydd.”

 

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hwn yn ddarganfyddiad pwysig gan y tîm oherwydd mae’n dangos bod y gwaith caled i greu a datblygu dolydd ar draws y sir ers i’r prosiect ddechrau yn dechrau dangos, gan olygu bod cynefinoedd mwy cyfoethog ac amrywiol o fudd i natur leol a chymunedau o gwmpas y safleoedd hyn.”

 

 

Comments