21/04/2026
Cynlluniau ar waith ar gyfer prosiect lleoedd parcio dros nos i gartrefi modur

Mae cynlluniau ar waith i ddarparu cyfleusterau addas ar gyfer perchnogion cartrefi modur mewn lleoliadau amrywiol ledled y sir. Mae prosiect 'Mannau Parcio Dros Nos Sir Ddinbych ar gyfer Cartrefi Modur' yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Dinbych.Nod y cynnig yw mynd i’r afael â phroblemau gyda pherchnogion cartrefi modur sy’n aros dros nos mewn mannau di-awdurdod yn Sir Ddinbych, lle nad oes hawl cyfreithiol ganddynt i gysgu dros nos mewn cerbyd.
Mae’r cynllun yn anelu at atal problemau amgylcheddol a chymdeithasol a achosir gan wersylla anghyfreithlon, a darparu gwell cyfleusterau ar gyfer y rheiny sydd am aros dros nos mewn cartrefi modur a faniau gwersylla ledled y sir. Bydd y cynigion hefyd yn cefnogi twristiaeth leol.
Y cynigion o fewn y prosiect yw datblygu ardaloedd i barcio cartrefi modur a faniau gwersylla dros nos mewn chwech o leoliadau ledled y sir.
Bydd ceisiadau cynllunio’n cael eu cyflwyno ar gyfer pob safle i hwyluso gosod yr isadeiledd perthnasol i gefnogi’r prosiect. Ariennir y gwaith arfaethedig gan gyllid Y Pethau Pwysig, Llywodraeth Cymru sy’n anelu at wella isadeiledd hanfodol i ymwelwyr, a Chronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.
Mae’r safleoedd arfaethedig yn cynnwys:
- Stryd y Cei, Y Rhyl (Un gornel o’r maes parcio sydd ar gau ar hyn o bryd, gyda gweddill y safle yn cael ei neilltuo ar gyfer parcio bysiau)
- Marine Drive (Parêd y Dwyrain), Y Rhyl (Ardal fechan i’w neilltuo’n agos at y Pafiliwn)
- Traeth Barkby, Prestatyn (Y maes parcio isaf gyferbyn â’r Toiledau Cyhoeddus)
- Ffordd y Parc, Rhuthun (rhan fechan o’r maes parcio presennol)
- Lôn Las, Corwen (Nifer fach o leoedd parcio ar hyd ffordd allan y maes parcio presennol)
- Lôn y Felin, Llangollen (rhan fechan o’r maes parcio isaf ar hyd y wal gynnal i’r maes parcio uchaf)
Mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar leoliadau problemus sy’n boblogaidd gyda thwristiaid sy’n aros dros nos heb ganiatâd, ac sydd â busnesau lleol gerllaw a fyddai’n elwa o ymwelwyr y safleoedd parcio dros nos.
Mae’r prosiect yn anelu at ddarparu lleoedd parcio i aros dros nos am gyfnod byr (dim mwy na 2 noson) i gartrefi modur mewn meysydd / ardaloedd parcio cyhoeddus sy’n agos at drefi a chyfleusterau presennol.
Ffocws y prosiect ym mhob safle yw darparu cyfleusterau parcio diogel dros nos i gartrefi modur a’u galluogi i wagio dŵr gwastraff / dŵr budur ac ail-lenwi gyda dŵr glân. Ni chaniateir unrhyw farbeciws na thanau, na gosod adlenni na phebyll. Bydd y lleoedd parcio i gartrefi modur yn rhai syml, llawr caled i aros am gyfnodau byr yn unig.
Bwriedir galluogi defnyddwyr cartrefi modur sy’n dod i aros i safleoedd ar dir Cyngor Sir Ddinbych i dalu am aros yno trwy dariff newydd ar yr ap parcio ceir presennol ar eu ffôn symudol neu beiriannau talu ar y safle.
Bydd unrhyw waith ar y safleoedd,os ceir caniatâd cynllunio, yn cynnwys mesurau i atal parcio di-awdurdod yn y safleoedd hyn.
Meddai Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Gwyddom fod cynnydd wedi bod yn y defnydd o gartrefi modur, yn enwedig ers pandemig Covid pan ddechreuodd pawb aros yn y DU i fynd ar eu gwyliau. Bydd cynigion arloesol y prosiect yn helpu i ddarparu cyfleusterau gwych i’r rheiny sy’n dymuno teithio ar draws Sir Ddinbych ac yn rhoi hwb ardderchog i dwristiaeth a busnesau yn ardaloedd y safleoedd hyn unwaith y byddant ar-lein”.