16/04/2026
Y Cyngor yn cael y wobr genedlaethol uchaf ar gyfer cynhwysiant anabledd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael cydnabyddiaeth fel arweinydd cenedlaethol mewn cynhwysiant anabledd ar ôl cyflawni statws Arweinydd - Lefel 3 Hyderus o ran Anabledd, yr achrediad uchaf o dan gynllun Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU.
Mae’r wobr bwysig yn amlygu ymrwymiad parhaus y Cyngor i fod yn gyflogwr cynhwysol, yn cefnogi pobl anabl i gael gwaith, a chreu cyfleoedd i bawb ffynnu.
Mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn annog cyflogwyr i gymryd camau cadarnhaol i recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr anabl. Mae statws Arweinydd - Lefel 3 yn cael ei roi i sefydliadau sydd nid yn unig yn bodloni safonau uchel, ond hefyd yn cefnogi cynhwysiant anabledd ar draws eu cymunedau a chefnogi eraill i wella.
I gyflawni’r achrediad, bu i’r Cyngor gynnal hunanasesiad cynhwysfawr o’i bolisïau, arferion a data gweithlu, gan ddangos arferion cyflogaeth gynhwysol cryf a chyson. Cafodd hyn ei ddilysu yn allanol gan Lywodraeth Cymru.
Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, bydd y Cyngor yn parhau i hyrwyddo recriwtio cynhwysol, sicrhau bod addasiadau i’r gweithle mewn lle, a chefnogi datblygiad gyrfa gweithwyr anabl. Bydd hefyd yn gweithio gyda phartneriaid a chyflenwyr i rannu arfer gorau ac annog mabwysiadu ehangach o ddulliau cynhwysol.
Dywedodd Catrin Roberts, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol Pobl Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae cyflawni statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer y Cyngor. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i greu gweithle ble mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.
“Rydym yn falch o gael ein cydnabod fel arweinydd yn y maes hwn a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a’n cymunedau i hyrwyddo cynhwysiant a chreu cyfleoedd i bobl anabl.”
Mae’r cyrhaeddiad hwn yn cryfhau enw da’r Cyngor fel cyflogwr arloesol ac yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws bob gwasanaeth.