16/04/2026
Gwella effeithlonrwydd ynni mewn gorsaf Gwastraff ac Ailgylchu

Mae effeithlonrwydd ynni wedi cael ei wella ymhellach yng ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu’r Cyngor.
Mae timau Ynni a Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau prosiect i osod system storio ynni mewn batris (BESS) ar y safle yn Ninbych i helpu i ddal yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig niferus yr adeilad.
Mae tîm Ynni’r Cyngor wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a lleihau allyriadau yn rhan o ymgyrch y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ystod 2019.
Mae’r holl gerbydau Gwastraff ac Ailgylchu wedi’u lleoli ar y safle yn Ninbych ac maent yn cychwyn ac yn gorffen eu teithiau casglu o’r orsaf. Mae gwastraff y gellir ei ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei gasglu gan y cerbydau ac yn cael ei gludo i’r safle yn Ninbych i gael ei ddidoli a’i brosesu.
Mae 15% o’r fflyd yn gerbydau trydan ac mae’r cerbydau yma’n cael eu gwefru ar y safle ar ôl cael eu defnyddio bob dydd.
Ar hyn o bryd mae yna 11 cerbyd trydan yn gweithredu o Safle Dinbych sef: pum cerbyd gwastraff ailgylchu ‘Electra’, dau gerbyd casglu gwastraff ‘Dennis Eagle’, dau dryc fforch godi Toyota trydan, un tryc â llwythwr telesgopig trydan JCB ac un Car Peugeot sydd yn cefnogi’r tîm goruchwylio.
Mae yna 12 pwynt gwefru wedi’u gosod ar y safle sydd yn gwefru hyd at 16 cerbyd ar yr un pryd.
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, defnyddiwyd cyfanswm o 74,335kWh o drydan gan y cerbydau trydan oedd yn gweithredu o’r safle, mae hyn gyfystyr â thua 75,000 milltir o deithio heb allyriadau.
Mae’r pum lori ailgylchu ‘Electra e-Cargo’ yn gallu teithio am hyd at 155 milltir, sy’n cynnig milltiroedd gwyrddach am gost is a chostau chynnal a chadw rhatach. Mae’n hawdd eu gweld ar y ffordd gan fod gan bob un enw ar eu blaen. Dim ond rhywfaint ohonyn yw’r rhain, sef Bindarella, Bindiana Jones a Binnie Mouse.
Gosodwyd y batris 600kWh (3x200 kWh) trwy gymorth ariannol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rhan o Grant EVCI a ZEV 25-26 (oedd yn ariannu 90% o’r gost).
Fe fydd y batris yn storio trydan dros ben sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig yn ystod y dydd er mwyn ei ddefnyddio pan nad yw’r paneli’n cynhyrchu ynni er mwyn gallu gwefru’r fflyd gwastraff ac ailgylchu. Gellid defnyddio'r ynni sydd wedi'i storio min nos neu ar ddyddiau cymylog iawn pan nad yw paneli solar yn cynhyrchu digon o drydan i gynnal yr adeilad, sy’n helpu i gynnal costau defnyddio ynni hirdymor is a lleihau allyriadau carbon. Mae disgwyl i’r prosiect yma arbed 76,731kWh ychwanegol y flwyddyn a chynyddu faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle i tua 73%, a fydd yn arbed £16,113 a 22 tunnell of CO2 y flwyddyn a lleihau faint o ynni dros ben gwerth isel sy’n cael ei anfon i’r grid.
Meddai Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Nid yn unig y bydd gosod y batri yn yr orsaf gwastraff ac ailgylchu yn ein helpu i leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni ymhellach ar y safle, fe fydd hefyd yn ychwanegu haen ychwanegol o gefnogaeth er mwyn gwefru cerbydau trydan y gwasanaeth yn effeithlon tra’n lleihau costau trydan ac allyriadau carbon.
“Mae Gwastraff ac Ailgylchu yn ymroddedig i leihau allyriadau carbon yn Sir Ddinbych gyfan ac rydym yn ddiolchgar i’n hadrannau Ynni a Fflyd am eu helpu i fod ar y blaen gyda’r gwasanaeth pwysig hwn.”