Ebrill 2026

02/04/2026

Seremonïau i nodi dechrau tymor 2026 yn atyniadau treftadaeth Sir Ddinbych

Dathlodd safleoedd hanesyddol ar draws Sir Ddinbych ddechrau’r tymor newydd i ymwelwyr gyda chyfres o seremonïau agoriadol arbennig dros y penwythnos.

Mae Plas Newydd, Carchar Rhuthun a thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre wedi nodi dechrau tymor 2026 gyda’u seremonïau unigryw eu hunain, gan adlewyrchu cymeriad a hanes y safleoedd unigol.

Yn Rhuthun, cynhaliwyd digwyddiad “Datgloi’r Carchar” (yng Ngharchar Rhuthun) ac “Addurno’r Drws” (yn Nantclwyd y Dre), a seremoni “Hongian yr Hetiau” ym Mhlas Newydd, i nodi agoriad yr adeilad a fu unwaith yn gartref i Ferched enwog Llangollen. 

Daeth gwesteion, partneriaid ac ymwelwyr ynghyd i ddathlu ail-agor drysau’r atyniadau a chroesawu ymwelwyr cyntaf y flwyddyn. 

Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad “Datgloi’r Carchar” oedd disgyblion côr Ysgol Pen Barras, a berfformiodd nifer o ganeuon ar gyfer y gwesteion yn y seremoni. 

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’r tîm yn hynod ddiolchgar o’r gefnogaeth gan ein gwesteion a’n hymwelwyr yn ein seremonïau agoriadol ac yn ystod y penwythnos cyntaf, sy’n dangos pa mor werthfawr yw ein safleoedd treftadaeth.

“Roedd yn hyfryd dathlu dechrau’r tymor gyda phobl angerddol sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r gwaith yr ydym yn ei wneud, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a ddaeth draw i helpu i wneud yr achlysur yn ddechrau cadarnhaol i’r flwyddyn.  Hoffwn ddiolch hefyd i gôr Ysgol Pen Barras am eu perfformiad hyfryd yn y seremoni.”

I annog ymwelwyr i ymweld â rhagor o atyniadau hanesyddol yn y sir, mae gostyngiad arbennig ar gael drwy gydol y tymor i’w ddefnyddio ar draws y safleoedd.  Tan ddiwedd mis Medi, bydd ymwelwyr â Charchar Rhuthun, tŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd yn Llangollen yn derbyn gostyngiad pris o 20% ar gyfer atyniadau eraill, gan roi cyfle i deuluoedd ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hanes i ymweld â’r safleoedd hyn am bris gostyngol. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Gwasanaeth Treftadaeth drwy treftadaeth@sirddinbych.gov.uk neu ymwelwch â www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth i drefnu ymweliad.

Comments