Ebrill 2026

23/04/2026

Disgyblion yn cefnogi natur ar dir yr ysgol

Mae disgyblion ysgol gynradd wedi creu ardal gynefin newydd yn eu hysgol i roi help llaw i natur yn lleol.

Fe fu deugain o ddisgyblion Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, o flwyddyn tri, pedwar, pump a chwech yn torchi eu llewys yn ddiweddar i greu dôl blodau gwyllt newydd yn yr ysgol.

Mae’r datblygiad newydd yn dilyn gwaith yn yr ysgol gan ddisgyblion, tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a welodd tua 90 metr o wrych y gerddinen wyllt yn bennaf yn cael ei blannu ar y safle i helpu’r pilaon mwyaf yn y DU sef y gylfinbraff.

Cafodd coetir bychan ei blannu ar y safle hefyd ynghyd â 12 o goed ffrwythau a choedlan fach. Gyda’i gilydd roedd y gwaith hwn yn creu cynefinoedd a oedd yn cynnwys 624 o goed newydd o amgylch ei diroedd.

Mae dôl blodau gwyllt newydd Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd wedi ei greu gan ddefnyddio’r ardal werdd gyfan o amgylch maes parcio’r ysgol.

Gyda chymorth tîm Bioamrywiaeth y Cyngor fe blannodd disgyblion 300 o blanhigion a fydd yn helpu i ddarparu ffynhonnell o fwyd ar gyfer trychfilod fel gwenyn. Roedd y rhain yn cynnwys clafrllys, y gludlys coch, y feddyges las, llygad llo mawr, clust y gath, moron gwylltion, meillionen hopysaidd, bysedd y cŵn, y bengaled, crafanc brân y gweunydd ac ytbysen y ddôl.

Daeth y planhigion o blanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy a’r Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.

Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright: “Roedd yn wych i fod yn ôl yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd gan fod y disgyblion a’r staff mor angerddol dros gefnogi natur yn lleol. Roedd brwdfrydedd y disgyblion i greu’r ddôl blodau gwyllt newydd hon yn wych ac o ganlyniad i’w gwaith caled bydd y cynefin hwn yn ogystal â’r ardaloedd o goetir a gwrychoedd rydym wedi eu creu o’r blaen wir yn darparu lloches i natur yma y gall y plant hefyd ddysgu ohoni.”

Dywedodd y Pennaeth Geriant Rowe: "Mae’r partneriaeth y mae’r ysgol wedi’i datblygu gyda Thim Bioamrywiaeth Sir Ddinbych yn un sy’n cyfoethogi cynefinoedd ardal yr ysgol, ynghyd a rhoi cyfleoedd ymarferol gwych i’r plant gael effaith gadarnhoal ar wella bioamrywiaeth a natur. Bydd hyn ynghyd a phartneriaethau eraill yn creu etifeddiaeth i’r amgylchedd a gwerthfawrogiad y disgyblion ar sut y gallent wneud gwahaniaeth. Edrychwn ymlaen i weld y blodau yn blodeuo."

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych fod y plant hyn wedi cael y cyfle i ddysgu am yr holl fanteision all ddod yn sgil dôl blodau gwyllt drwy ein tîm Bioamrywiaeth a da iawn nhw i gyd am dorchi eu llewys i helpu i blannu ased mor bwysig ar gyfer cefnogi natur yn lleol.”

 

 

Comments