Ebrill 2026

22/04/2026

Uwchraddio maes chwarae ym Mhrestatyn

Mae gwaith wedi dechrau’r wythnos hon i uwchraddio Maes Chwarae Sea Road, Prestatyn.

Adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Dinbych sy'n rheoli'r prosiect ar ôl sicrhau cyllid gan Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith o uwchraddio safle Sea Road, Prestatyn wedi cael ei flaenoriaethu yn sgil pryderon a godwyd ynglŷn â’r arwyneb yn ogystal ag oedran a chyflwr yr offer chwarae. 

Yn ystod y cyfnod gwaith y gobaith yw ailosod yr arwyneb diogelwch rwber yn llwyr, a bydd yn gyfle i gyflwyno offer chwaraeon hygyrch modern newydd. Mae’r contract ar gyfer y gwaith wedi cael ei ddyfarnu i Proludic.

Meddai Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Ar ôl cwblhau’r gwaith yma, fe fydd y lleoliad yn cynnwys cyfleusterau mwy modern i’r plant, a bydd hefyd yn cynnwys offer mwy cynhwysol a hygyrch i blant sydd ag anghenion ychwanegol.”

 

Comments