Ebrill 2026

01/04/2026

Partneriaeth leol yn cyflawni prosiect cymunedol ym mharc Bodelwyddan

Ymunodd gwirfoddolwyr a'r contractwyr lleol Proarb â thîm Cefn Gwlad y cyngor yn ddiweddar i blannu gwrych cadwraeth o amgylch y pwll newydd ym mharc Bodelwyddan.

Wedi'i leoli wrth droed Castell hanesyddol Bodelwyddan, ail-agorwyd y safle i'r cyhoedd yn ddiweddar am y tro cyntaf ers 2022.

Cafodd y safle £900,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i fynd i'r afael â chyflwr y parcdir, drwy osod llwybrau milltir a hanner o hyd sy'n addas i bobl anabl, gwrychoedd newydd i gefnogi natur leol ymhlith gwelliannau eraill.

Yn dilyn ailagoriad llwyddiannus, mae swyddogion cefn gwlad a gwirfoddolwyr ymroddedig wedi parhau â'u gwaith caled drwy drosi hen safle gwastraff yn bwll, a fydd yn annog bioamrywiaeth i ffynnu.

Ar ôl cwblhau gwaith cloddio’r pwll, cysylltodd y contractwyr lleol Proarb â swyddogion y cyngor, a roddodd mwy o arian i blannu gwrych cadwraeth i amgylchynu'r pwll bywyd gwyllt fel rhan o'u haddewid buddion cymunedol.

Wedi'i leoli ym Modelwyddan, mae Proarb yn cymryd rhan weithredol mewn mentrau ymgysylltu cymunedol a bioamrywiaeth, drwy eu gwaith ym maes rheoli llystyfiant a stiwardiaeth amgylcheddol yn Sir Ddinbych ac ar hyd Gogledd Cymru.

Ymunodd gwirfoddolwyr a gweithwyr o Proarb â staff Cefn Gwlad y Cyngor ym Mharc Bodelwyddan yn ddiweddar i blannu'r gwrych cadwraeth, wrth iddynt barhau â'u hymdrechion i wella'r safle i ymwelwyr.

Dywedodd John Paul Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Proarb Limited:

“Mae cefnogi prosiectau fel hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned a bioamrywiaeth fel contractwyr sy’n gweithio gyda Chyngor Sir Dinbych a ScottishPower Energy Networks ledled Gogledd Cymru.”

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych:

“Rydym yn ddiolchgar am haelioni Proarb wrth roi’r arian hwn i gwblhau gwaith plannu’r gwrych cadwraeth o amgylch y pwll bywyd gwyllt newydd. Hoffwn hefyd ddiolch i'r swyddogion cefn gwlad, gweithwyr Proarb a'n gwirfoddolwyr ymroddedig am eu gwaith caled ar y safle.

“Bydd adnewyddu’r parcdir yn rhoi cefnogaeth hollbwysig y mae ein bywyd gwyllt lleol ei angen i oroesi wrth symud ymlaen a bydd hefyd yn rhoi lle gwych i breswylwyr ac ymwelwyr â Sir Ddinbych i ymweld a phrofi’r natur sydd gan ein Sir i’w gynnig.”

Comments