Ebrill 2026

09/04/2026

Llenwi bron i ddau gant o sachau o sbwriel wrth glirio ffordd yn y Rhyl

Aethpwyd â bron i ddau gant o sachau llawn sbwriel o ffordd yn y Rhyl lle bu problemau â sbwriel.

Bu tîm Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych wrthi’n ddiweddar yn mynd i’r afael â’r sbwriel oedd wedi cronni ar hyd Troeon Dyserth.

Aeth y tîm â 180 o sachau o sbwriel o’r ardal, gan gynnwys pethau fel popty microdon ag amryw ddarnau o geir.

Roedd y tîm eisoes wedi bod yn codi sbwriel ar Ffordd Tŷ Fry ym Modelwyddan ac Allt y Graig yn Nyserth, lle casglwyd 39 o sachau o sbwriel i gyd.

Meddai Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn gwybod fod llawer o bobl wedi codi pryderon am Droeon Dyserth ac rydym yn ddiolchgar i’r Gwasanaethau Stryd am wneud y gwaith yma.

“Mae gollwng sbwriel yn fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae’n drosedd. Mae’n pardduo ein tirluniau ni ac yn gallu cael effaith negyddol ar ansawdd bywydau pobl leol. Mae pobl sy’n gollwng sbwriel hefyd yn dadwneud gwaith ein staff sy’n mynd ati bob dydd i gadw ein sir mor lân a thaclus â phosibl.

“Nid oes unrhyw esgus dros daflu sbwriel yn unman yn y sir. Mae’r Cyngor yn annog pobl i roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw achosion o daflu sbwriel neu dipio anghyfreithlon trwy’r sianeli priodol.”

Comments