Mai 2026

12/05/2026

Gobaith i aderyn prin â chyllid newydd

Bydd y gwaith i amddiffyn aderyn prin yn Sir Ddinbych a’r cyffiniau’n parhau eto eleni.

Mae cyllid newydd yn galluogi Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ddal i ddatblygu prosiect i amddiffyn gylfinirod a ddechreuodd yn 2023. Ariennir y prosiect drwy’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Y Gronfa Treftadaeth sy’n gweinyddu’r cyllid ar ran Llywodraeth Cymru.

Ddiwedd mis Mawrth bydd Cysylltu Gylfinir Cymru, prosiect ar y cyd fan Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helgig a Bywyd Gwyllt, yn rhoi’r gorau iddi wedi i’r cyllid tair blynedd ddod i ben.

Ers bod yn rhan o Cysylltu Gylfinir, mae tîm y Dirwedd Genedlaethol wedi helpu i greu gwell amgylchiadau i adfer poblogaeth y gylfinirod yn Sir Ddinbych a gogledd-ddwyrain Cymru drwy wella dulliau rheoli cynefinoedd, gwella prosesau monitro a chasglu data, hybu gallu pobl leol i weithredu ynghylch yr ecoleg a meithrin perthnasoedd cryf ar sail ymddiriedaeth gyda ffermwyr.

Mae adfer poblogaeth y gylfinir yn gofyn am ymdrech hirdymor a gall gymryd blynyddoedd lawer cyn y saw canlyniadau mesuradwy i’r amlwg.

Ar yr un pryd, mae byd amaeth yng Nghymru’n newid yn sgil cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a datblygu dulliau Ffermio Bro mewn Tirweddau Dynodedig, sy’n creu cyfleoedd newydd i integreiddio cadwraeth mewn arferion rheoli tir yn y dyfodol.

Gyda golwg ar hynny, cyflwynodd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Bannau Brycheiniog gais am ddilyniant i’r prosiect – ac maent bellach wedi cael cadarnhad y bu’r cais yn llwyddiannus. Bydd y prosiect newydd, Tirweddau Gylfinir Cymru, yn ddilyniant uniongyrchol ar sail y gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn.

Bwriedir ehangu’r ymdrechion i amddiffyn y gylfinir i dirweddau allweddol, yn dal i gefnogi ffermwyr ac yn creu mwy o ffyrdd i’r cyhoedd gymryd rhan, yn ogystal â helpu i sefydlu technegau hirdymor a fydd yn galluogi ffermwyr i fod ar flaen y gad gyda chadwraeth ymhell ar ôl 2029.

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad:  “Mae Cysylltu Gylfinir Cymru wedi dangos beth allwn ei gyflawni pan mae ffermwyr, cymunedau a phartneriaid cadwraeth yn cydweithio at yr un nod. Byddai colli’r gylfinirod yn golled enfawr i’n treftadaeth naturiol a diwylliannol ni ac er gwaethaf yr heriau mawr o’u blaenau nhw, mae’r prosiect wedi creu gobaith go iawn y byddant yn goroesi.

“O gael y cyllid newydd, byddwn yn gallu adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd wedi’u gosod i amddiffyn gylfinirod a chymryd y camau sydd eu hangen i ddiogelu eu dyfodol yn y tymor hir.”

 

 

 

Comments