13/05/2026
Cyngor yn ymgynghori ar system barcio newydd a newidiadau i drefn ffyrdd Llangollen

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymgynghori ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig i gyflwyno parcio ‘arhosiad byr iawn’ newydd a newidiadau eraill i drefn ffyrdd yng nghanol tref Llangollen.
Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ddogfennau cyfreithiol sydd eu hangen i wneud newidiadau i gyfyngiadau ar draffig a pharcio, fel llinellau melyn dwbl a strydoedd unffordd.
Mae'r Cyngor yn cynnig y newidiadau canlynol i ganol tref Llangollen:
- Heol y Farchnad: Cael gwared ar y ddau ofod parcio agosaf ar y gyffordd â Heol y Castell. Gosod gofod parcio yn lle un o’r gofodau yn y safle tacsis. Bydd y gofod parcio hwn am ddim. Rhwng 9am a 5pm, ni fydd modd aros mwy nag awr yn y gofod parcio ac ni chaniateir dychwelyd iddo cyn pen 2 awr.
- Sgwâr y Neuadd (y tu allan i Aydin's Fish & Chips): Cyflwyno man parcio newydd, arhosiad byr a orfodir yn gyfreithiol er mwyn caniatáu i bobl “bicio i’r siop”. Bydd y gofod parcio hwn am ddim. Rhwng 9am a 5pm, ni fydd modd aros mwy nag awr yn y gofodau parcio ac ni chaniateir dychwelyd i’r un gofod cyn pen 2 awr.
- Willow Street: Cyflwyno llinellau melyn dwbl i ochr chwith y ffordd ar hyd y ffordd gyfan. Cyflwyno llinellau melyn dwbl ychwanegol ar ran fach o ochr dde’r ffordd y tu allan i’r clwb ieuenctid.
Bydd y parcio newydd ‘arhosiad byr iawn’ am ddim, yn unol â mannau parcio tebyg eraill yng nghanol y dref. Fodd bynnag, byddant yn cael eu gorfodi gan Swyddogion Gorfodi Sifil rhwng 9am a 5pm i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gobeithio trwy gyflwyno’r newidiadau arfaethedig yn Heol y Farchnad, Sgwâr y Neuadd a Willow Street y bydd yn gwella llif y traffig a chynnal mynediad i gerddwyr trwy ostwng parcio anystyriol yn y mannau hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae Llangollen yn dref o bwys hanesyddol yn ne Sir Ddinbych. Yn ogystal â bod yn boblogaidd â thwristiaid ac ymwelwyr dydd, mae Llangollen yn dref ‘canolbwynt’ sy’n gwasanaethu rhwydwaith mawr o bentrefi a chymunedau gwledig eraill yn yr ardal. Gyda’r newidiadau hyn, rydym yn gobeithio y bydd canol y dref yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i ymwelwyr sy’n ymweld ar droed neu mewn car.
“Mae hi hefyd yn bwysig nodi, gyda’r newidiadau arfaethedig hyn, na fydd unrhyw golled net i barcio yng nghanol y dref ac ni fydd unrhyw effaith ar fannau bathodyn anabledd (bathodyn glas) wedi’u marcio. Ni fydd unrhyw effaith ar safleoedd bysiau na’u lleoliadau o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig hyn.”
Am fwy o wybodaeth ar y newidiadau arfaethedig:
Y dyddiad cau ar gyfer cael adborth yw dydd Mercher 3 Mehefin 2026.