Mai 2026

11/05/2026

Pythefnos Gofal Maeth yn dechrau yn Sir Ddinbych

Mae Pythefnos Gofal Maeth, sef digwyddiad cenedlaethol blynyddol sy'n rhoi sylw i faethu, wedi cychwyn unwaith eto eleni, ac fe’i cynhelir rhwng 11 a 24 Mai.

Mae gofalwyr maeth yn Sir Ddinbych yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc, yn helpu llawer ohonynt i aros a ffynnu yn eu cymuned leol, gan ddarparu dyfodol mwy disglair iddynt.

Mae thema eleni, “Dyma beth yw maethu”, yn taflu goleuni ar y digwyddiadau go iawn, bob dydd hynny sy’n gwneud maethu mor bwerus.

Mae tîm Maethu Cymru Sir Ddinbych yng Nghyngor Sir Ddinbych yn dathlu'r pythefnos gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer teuluoedd maeth a darpar ofalwyr maeth ledled y sir.

Yn ystod yr ymgyrch 14 diwrnod, mae amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio, gan gynnwys digwyddiadau a diwrnodau allan i deuluoedd maeth Sir Ddinbych, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â'r tîm allan yn y Gymuned.

Mae'r sesiynau galw heibio hyn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am faethu a chael sgwrs anffurfiol gyda'r tîm. Mae'r rhain yn cynnwys Sesiwn Galw Heibio Gwybodaeth Maethu yn Llyfrgell Prestatyn ar 12 Mai rhwng 2 a 4pm, a Sesiwn Gwybodaeth Ar-lein ar 13 Mai rhwng 12pm a 1.30pm.

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at y pythefnos yma ym mis Mai lle cawn ddathlu gwaith ein gofalwyr maeth anhygoel yma yn Sir Ddinbych.

Mae amserlen wych wedi'i threfnu unwaith eto eleni, ac rydym yn cymryd rhan yn nhaith gerdded Pythefnos Gofal Maeth Gogledd Cymru y Rhwydwaith Maethu hefyd.

Rydym wedi diweddaru ein pecyn o bolisïau cynorthwyol ar gyfer gofalwyr maeth sy'n maethu drwy'r awdurdod lleol, a byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un sy'n ystyried cymryd y cam nesaf i gael effaith enfawr ar fywyd unigolyn ifanc.”

Mae’r ddolen ar gyfer y sesiynau gwybodaeth ar-lein yma:  Digwyddiadau Gwybodaeth - Maethu Cymru

I gael mwy o wybodaeth am faethu gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych, ewch i: https://sirddinbych.maethucymru.llyw.cymru/

 

Comments