Mai 2026

11/05/2025

Llyfrgelloedd yn gwahodd preswylwyr i gamu yn ôl mewn amser yn ystod Mis Hanes Lleol a Chymunedol

Mae preswylwyr ar draws Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ddarganfod hanes cyfoethog eu cymunedau yn ystod mis Mai wrth i nifer o lyfrgelloedd ar draws y Sir ddathlu Mis Hanes Lleol a Chymunedol gydag ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac adnoddau am ddim.

O archwilio casgliadau rhyfeddol yr archif i roi cynnig ar weithgareddau teuluol ar thema hanes lleol, mae digon o gyfleoedd i bobl o bob oed ddatgelu straeon o’r gorffennol trwy’r llyfrgell leol.

Trwy gydol mis Mai, bydd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau ‘Holi’r Archifydd’, gan gynnig cyfle i breswylwyr ddarganfod mwy am gasgliadau’r archif a sut i gael mynediad atynt.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn:

  • Llyfrgell y Rhyl ar ddydd Mawrth 12 Mai o 10am i 12pm; ac yn
  • Llyfrgell Conwy ar ddydd Llun 18 Mai o 10am i 12pm.

Gall deuluoedd hefyd fwynhau digwyddiad arbennig ‘Teithwyr Amser Bach’ yn Llyfrgell Dinbych ar ddydd Gwener 29 Mai o 12pm i 2pm, yn cynnwys crefftau, gemau a gweithgareddau gwisgo i fyny ar thema hanes leol.

Yn y cyfamser, gall ymwelwyr i Lyfrgell Rhuddlan weld arddangosfa newydd wedi’i chreu gan Gymdeithas Hanes Lleol Rhuddlan, gan edrych ar effaith y Streic Gyffredinol ym Mai 1926 ar y gymuned leol.

Bydd Llyfrgell y Rhyl hefyd yn nodi 40 mlynedd ar 21 Mai, gan wahodd preswylwyr i ddarganfod sut mae llyfrgelloedd wedi newid ers y 1980au a sut maent yn parhau i gefnogi cymunedau heddiw.

Yn ddiweddar, mae’r llyfrgell wedi gosod Sganiwr Microffilm Digidol newydd a brynwyd trwy Gynllun Grantiau Bach Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r sganiwr yn darparu mynediad at gasgliad unigryw Llyfrgell y Rhyl o bapurau newydd lleol ar ficroffilm, gan gynnwys y Rhyl Record o 1856 i 1922 a’r Rhyl Journal o 1922 i 2007.

Sganiwr Microffilm Digidol

Mae’r papurau newydd hanesyddol hyn yn cynnig cipolwg rhyfeddol i fywyd bob dydd yn yr ardal leol a sut wnaeth digwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol siapio cymunedau dros y blynyddoedd. Mae’r sganiwr newydd yn galluogi cwsmeriaid i weld ac argraffu delweddau digidol o ansawdd uchel o’r casgliad. Gall breswylwyr ddarganfod mwy mewn digwyddiadau galw heibio arbennig ar ddydd Gwener 22 Mai a dydd Gwener 29 Mai o 10am i 12pm.

Gall aelodau’r llyfrgell hefyd gael mynediad at adnoddau hanes teuluol gan gynnwys Ancestry.com a Find My Past am ddim ar gyfrifiaduron y llyfrgell.

Adnodd poblogaidd arall sydd ar gael trwy’r llyfrgelloedd yw BFI Replay, gwasanaeth fideo ar alw ac am ddim, yn cynnwys miloedd o ffilmiau a rhaglenni teledu wedi’u digideiddio o Archif Genedlaethol BFI ac archifau ffilm rhanbarthol ar draws y DU. Mae uchafbwyntiau’n cynnwys fideo hanesyddol o ddisgyblion yn gadael Ysgol Christchurch y Rhyl ym 1902 ac eliffantod y syrcas yn cerdded trwy Ddinbych ar ôl cyrraedd ar y trên ym 1960.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae llyfrgelloedd lleol yn llawer mwy na llefydd i fenthyg llyfrau - maent yn byrth i straeon, atgofion a hanes sydd wedi siapio ein cymunedau. Mae Mis Hanes Lleol a Chymunedol yn gyfle gwych i breswylwyr o bob oed archwilio’r adnoddau anhygoel sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd, darganfod rhywbeth newydd am yr ardal maent yn byw ynddi, a mwynhau gweithgareddau gwych am ddim hefyd.

“P’un a ydych yn ymchwilio i hanes eich teulu, archwilio hen bapurau newydd, siarad gyda’r archifwyr neu’n mwynhau’r ffilmiau a ffotograffau hanesyddol, mae rhywbeth i bawb fwynhau. Anogwn i breswylwyr ymweld â’u llyfrgell leol ym mis Mai a chymryd cam yn ôl i’r gorffennol.”

I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n digwydd yn llyfrgelloedd Sir Ddinbych, ewch i: Llyfrgelloedd Sir Ddinbych⁠.

Comments