Mai 2026

07/05/2026

Miloedd o sigaréts anghyfreithlon wedi eu meddiannu gan dîm safonau masnach y cyngor

Yn dilyn ymgyrchoedd llwyddiannus blaenorol i fynd i’r afael â gwerthu sigaréts anghyfreithlon, mae swyddogion Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn ogystal â Thîm Tybaco Rhanbarthol Safonau Masnach Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wedi cynnal ymweliadau pellach ag eiddo ar draws y sir.

Cafodd tri o safleoedd eu targedu yn dilyn profion llwyddiannus lle prynwyd sigaréts yn anghyfreithlon.

Yn ystod yr ymweliadau fe feddiannodd swyddogion dros 12,000 o sigaréts anghyfreithlon a 6.7 cilogram o dybaco rholio â llaw mewn dau safle, gan arwain at gau un dros dro gyda’r perchennog yn cytuno i hynny. 

Yn ystod y gwaith chwilio daethpwyd o hyd i’r eitemau hyn wedi eu cuddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Daethpwyd o hyd i dybaco a sigaréts anghyfreithlon mewn cypyrddau cudd wedi eu creu yn bwrpasol a waliau ffug a oedd wedi’u diogelu gydag electromagnetau. 

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad:

“Dyma enghraifft arall o’r gwaith gwych mae ein swyddogion Safonau Masnach yn ei wneud i dynnu cynnyrch anghyfreithlon fel y rhain oddi ar ein silffoedd. Roedd yr eitemau a feddiannwyd yn rhai ffug a allai fod yn beryglus i iechyd a diogelwch y bobl hynny fyddai’n eu prynu a’u defnyddio.

“Nid yw’r cynnyrch wedi’u profi o ran diogelwch ac mae’r sigaréts yn berygl tân go iawn gan nad oes ganddynt y cylchoedd atal llosgi. O safbwynt iechyd, does wybod beth sydd yn y tybaco, ac fe allant fod yn cynnwys lefelau niweidiol o gemegau anghyfreithlon ymhell y tu hwnt i beryglon arferol cynnyrch tybaco awdurdodedig.

“Mae ein preswylwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth amlygu ardaloedd neu unigolion o ddiddordeb, sy’n helpu ein swyddogion Safonau Masnach i ymchwilio a chael gwared ar dybaco, fêps a chynnyrch anghyfreithlon eraill yn ein cymuned.”

Gall busnesau gysylltu â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar sigaréts, tybaco a chynnyrch fêpio anghyfreithlon drwy wefan Sir Ddinbych.

Comments