Mawrth 2026

23/03/2026

Annog preswylwyr i gofrestru am gyfrif Treth Cyngor arlein wrth gyhoeddi biliau newydd

Mae preswylwyr Sir Ddinbych yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer cyfrif Treth Cyngor arlein wrth i filiau blynyddol ddod drwy’r blwch post ledled y sir.

Mae'r gwasanaeth digidol yn cynnig ffordd gyflymach, haws a mwy cyfleus i breswylwyr reoli eu treth cyngor, gydag amrywiaeth o nodweddion wedi'u cynllunio i symleiddio tasgau bob dydd.

Drwy gofrestru, mae preswylwyr yn gallu:

  • gweld eu cyfrifon treth cyngor, gan gynnwys rhandaliadau sydd ar ddod ac unrhyw falans sy'n weddill
  • derbyn biliau di-bapur
  • newid dulliau talu yn ddiogel
  • cael mynediad at filiau cyfredol a blaenorol 24/7
  • ciweddaru manylion personol yn hawdd
  • lledaenu taliadau trwy gynllun talu cyfleus
  • gwneud cais am y gostyngiad person sengl
  • gwirio eu band treth cyngor
  • rheoli eu cyfrif ar unrhyw adeg, o unrhyw ddyfais.

Dywedodd Liz Thomas, Pennaeth Gwasanaeth Cyllid ac Archwilio yn Sir Ddinbych, “Gyda biliau treth cyngor yn cael eu dosbarthu, nawr yw'r amser delfrydol i drigolion symud eu cyfrif arlein. Mae'n gyflymach, yn fwy cyfleus, ac yn cynnig llawer mwy o hyblygrwydd wrth reoli taliadau a diweddaru manylion. Gallwch gofrestru mewn ychydig funudau ar wefan Sir Ddinbych.”

I ble mae eich treth cyngor yn mynd?

Ychwanega Liz Thomas, “Wrth osod cyllideb eleni, rydym wedi gweithio’n galed i gadw cynnydd Treth Cyngor mor isel â phosibl, gan osgoi toriadau tra’n dal i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt. Y Treth Cyngor a gymeradwywyd ar gyfer 2026–27 yw 4.76% ar gyfer gwasanaethau’r cyngor, ynghyd â’r 0.46% ychwanegol y mae’n rhaid ei dalu fel ardoll i’r Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan roi cyfanswm o 5.22%.”

Sut mae\'r Cyngor yn cael ei ariannuEr bod llawer yn credu bod treth y cyngor yn ariannu holl wasanaethau’r Cyngor, dim ond 26% o gyfanswm gwariant blynyddol y Cyngor yw’r arian a gesglir gan drigolion.

Daw mwyafrif y cyllid o’r grant cynnal refeniw gan Lywodraeth Cymru ac o drethi busnes, sef treth eiddo a delir gan fusnesau i gefnogi gwasanaethau lleol.

Mae’r rhan fwyaf o wariant Treth Cyngor (bron i ddwy ran o dair) yn cael ei wario ar helpu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae hyn yn cynnwys addysgu tua 16,500 o blant a phobl ifanc yn ein hysgolion ac addysg gyda thua 780 o athrawon yn darparu’r addysg hon.

Mae hefyd yn cynnwys darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a digartrefedd i blant ac oedolion i'w helpu i fyw bywydau diogel, iach ac annibynnol. Mae'r gwasanaethau statudol hyn yn ffurfio rhan sylweddol o gyllideb gyffredinol y Cyngor ac yn parhau i fod yn hanfodol wrth gefnogi trigolion ledled y sir.

Mae Liz Thomas yn mynd ymlaen i ddweud, “Mewn hinsawdd ariannol heriol barhaus, mae'n bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau ar wariant wedi'u hanelu at y gwasanaethau statudol i gefnogi'r trigolion mwyaf agored i niwed ledled ein sir, ac mae hyn yn gwbl briodol. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau Treth Cyngor Sir Ddinbych ar y wefan.

Os ydych angen help, mae'r llinellau ffôn Treth Cyngor ar agor rhwng 9am a 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01824 706 000 neu mae cyfleuster sgwrs fyw ar gael o 9am tan 5pm (4.30pm ar ddydd Gwener) drwy'r wefan.

Comments